Cae Ras Wrecsam
Mae’r Cae Ras yn ôl yn nwylo cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi i aelodau’r clwb cefnogwyr bleidleisio o blaid prynu’r prydles am 99 o flynyddoedd.

Cafodd y bleidlais ei chynnal mewn cyfarfod yng Nghanolfan Catrin Finch yn y stadiwm nos Fawrth, ac maen nhw’n anelu i godi £200,000 i sicrhau dyfodol y cae hanesyddol.

Aeth y clwb i ddwylo’r cefnogwyr yn 2011 yn dilyn trafferthion ariannol ond bellach mae ei sefyllfa ariannol yn sefydlog.

Mae Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr wedi nodi pedwar o faterion y bydd angen rhoi sylw brys iddyn nhw yn dilyn y cytundeb, sef:

–          Diffyg incwm

–          Costau uchel, a gwella cyfleusterau’r Cae Ras er mwyn cynyddu incwm

–          Bydd angen cynllunio dyfodol y Cae Ras yn y tymor hir

–          Tynnu cyn lleied o arian oddi wrth gyllideb y chwaraewyr â phosib

‘Bwlch ariannol’

 

Ar wefan y clwb, dywed yr Ymddiriedolaeth nad oedd ganddyn nhw ddewis ond prynu’r prydles er mwyn cau bwlch ariannol oedd yn peryglu dyfodol y clwb.

Nododd yr ymddiriedolwyr hefyd mai un o’u blaenoriaethau fyddai cynyddu incwm ar ddiwrnodau pan nad oes gemau yn y Cae Ras.

Eu nod, o lwyddo i wneud hynny, fyddai sicrhau bod y Cae Ras yn gwneud elw ariannol erbyn 2019.

Wrth amlinellu’r weledigaeth, galwodd yr ymddiriedolaeth ar gefnogwyr i fynd i’r gêm yn erbyn Braintree ar Ebrill 23 er mwyn codi £40,000 ychwanegol at y nod.

Pe bai pob un o’r cefnogwyr hynny’n gwario arian yn y stadiwm, meddai’r ymddiriedolwyr, byddai modd codi £100,000 ychwanegol.

Mae oedolion sy’n aelodau ac sy’n prynu tocynnau tymor yn gynnar yn gallu arbed £30, ac mae’r ymddiriedolwyr yn dweud y gallen nhw godi £60,000 pe bai’r cefnogwyr yn rhoi’r gostyngiad hwnnw yn ôl i’r ymddiriedolaeth.

Maen nhw hefyd yn dweud y gallen nhw godi £100,000 pe bai pob cefnogwr yn y dorf yn rhoi £25 yr un.

‘Cyfleoedd masnachol yn anferth’

Yn dilyn y newyddion am y cytundeb, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Don Bircham: “Mae’r cyfleoedd masnachol yn anferth. Rwy’n gwybod y bydd y cefnogwyr yn ein cefnogi ni.

“Mae’r angerdd am y clwb yn anferth. Mae’r stadiwm hanesyddol yn golygu cymaint i ni.

“Ry’n ni wrth ein bodd fod y cytundeb yn ei le.”