Safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Byddai dyfodol Port Talbot heb y diwydiant dur yn “drychinebus”, meddai’r Aelod Seneddol Stephen Kinnock wrth golwg360, wrth i filoedd o weithwyr dur aros i glywed eu tynged yn yr oriau nesaf.

Mae Bwrdd Rheoli Dur Tata yn cyfarfod yn Mumbai ar hyn o bryd i drafod dyfodol y cwmni yng Nghymru, gydag ansicrwydd ynglŷn â dyfodol dros 3,000 o swyddi ar y safle ym Mhort Talbot.

“Alla’i ddim meddwl am Bort Talbot heb ddur, gallwn ond dychmygu’r effaith drychinebus y byddai stopio cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ei gael. Byddai’r effaith yn anferth,” meddai Stephen Kinnock, sydd yn India, yn aros i glywed canlyniadau’r  cyfarfod.

Bu’n rhan o drafodaethau â chynrychiolwyr y cwmni ddoe, i geisio dwyn perswâd arnyn nhw i sicrhau’r gwaith dur yn y dref a dywedodd ei fod yn “hyderus” y bydd canlyniad “da” yn dod o’r trafodaethau.

Dur ‘yn rhan o DNA y bobl’

“Roedd yn drafodaeth adeiladol a gonest,” meddai Stephen Kinnock wrth golwg360.

“Fe wnaethon ni bwysleisio’r rôl  gwbl hanfodol y mae dur yn chwarae yn economi a chymuned Port Talbot, does ‘na’r un stryd, na theulu yn y dref i gyd sydd heb gysylltiad uniongyrchol â’r gwaith dur mewn rhyw ffordd.”

Yn ôl Stephen Kinnock, mae Tata yn deall hynny, ond ei fod mewn “sefyllfa ariannol anodd” ac wedi bod ym Mhort Talbot ers sawl blwyddyn.

Er hyn, mae’r AS dros Aberafan yn “benderfynol o barhau i ddadlau dros waith dur Port Talbot”, lle mae dur yn “rhan o DNA y bobol”.

‘Ddim yn fater i Lywodraeth Cymru’

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am beidio ag anfon dirprwyaeth i’r trafodaethau yn India, ond yn ôl Stephen Kinnock, cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan yn unig yw hyn.

“Dwi’n meddwl ei fod yn warthus nad oes neb o Lywodraeth Prydain wedi dod, ond dydy hynny ddim yn fy synnu, maen nhw wedi bod yn cysgu wrth y llyw ers blynyddoedd bellach,” meddai.

“Cyfrifoldeb Llywodraeth Prydain yw gweithredu ar reolau gwrth-dympio (dur rhad o China), ac er mwyn cael iawndal i ddiwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni (am gostau ynni cynyddol).

“Mae’n fater i Lywodraeth Prydain, nid i Lywodraeth Cymru.”

‘Gemau gwleidyddol’

Ac mewn ymateb i feirniadaeth Plaid Cymru ynglŷn â diffyg cynrychiolaeth o Gymru yn y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi “mewn cysylltiad dyddiol â Tata a’r uwch-dîm rheoli ym Mumbai.

“Does neb wedi gwneud mwy na Llywodraeth Cymru i amddiffyn y diwydiant dur.

“Mae’n drueni mawr fod Plaid Cymru wedi dewis chwarae gemau gwleidyddol pan fo swyddi cymaint o bobl yn y fantol.”

Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi “sefydlu Gweithlu ac rydym wedi gweithredu’n gyflym, er enghraifft trwy sefydlu’r Ardal Fenter i gefnogi busnesau sy’n bodoli’n barod a chreu twf economaidd.

“Rydym wedi bod yn pwyso’n gyson ar Lywodraeth y DU a’r rhai sydd ar y lefelau uchaf yn y Comisiwn Ewropeaidd i gyflwyno mesurau brys i roi cymorth i’r diwydiant o ran costau ynni, trethi carbon a ‘dympio’ dur,” meddai.

“Mae’n ymddangos bod gan Blaid Cymru fwy o ddiddordeb mewn sgorio pwyntiau gwleidyddol nag yn y gwaith caled beunyddiol o gadw swyddi o ansawdd uchel yng Nghymru.”

‘Llunio ein bywydau’

Un arall sydd ym Mumbai ar hyn o bryd yw Cadeirydd pwyllgor aml-undeb Port Talbot, Alan Coombs.

Esboniodd fod y dref “wedi ei hadeiladu ar y diwydiant dur. Mae wedi rhoi mwy na swyddi inni, mae wedi llunio ein bywydau a’n cymunedau.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd Unite Cymru, Andy Richards, eu bod nhw’n galw am gefnogaeth Llywodraeth Prydain i sicrhau ymrwymiad “i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot a’r DU yn y tymor hir.

“Byddai cau Port Talbot yn dinistrio’r economi Gymreig. Rydyn ni’n apelio ar y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i roi heibio gemau gwleidyddol a gweithio gyda Unite a Llywodraeth Cymru i achub ein dur.”

Cyfweliad: Mared Ifan