Mae Cymdeithas yr Iaith yn Iwerddon dros yr wythnos hon i ‘rannu gwersi’ â Chomisiynydd y Wyddeleg ac ymgyrchwyr iaith lleol.

Mae’r daith wedi’i threfnu gan adain ryngwladol y mudiad, a gafodd ei sefydlu yn 2014 i rannu syniadau am sut i gryfhau ieithoedd lleiafrifol ledled y byd.

Bydd cynrychiolwyr y mudiad iaith yn cyfarfod â Chomisiynydd y Wyddeleg, Rónán Ó Domhnail, ac yn ymweld ag ymgyrchwyr iaith, mentrau iaith, a’r prosiect Gaeltacht.

“Mae’r daith hon i Iwerddon yn rhan o’r cenhadu rhyngwladol rydym yn ei gynnal fel mudiad ymgyrchu,” meddai Sioned Haf, swyddog rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith.

“Mae esblygiad yr iaith Wyddeleg yn brofiad pwysig i ymgyrchwyr iaith i’w ddeall.

“Gobeithiwn allwn ddysgu, rhannu profiadau gyda’n cyfeillion yn Iwerddon, a dychwelyd â syniadau priodol i’w ymarfer yng Nghymru i gyd-fynd gyda’n hymgyrch ‘miliwn o siaradwyr Cymraeg’ presennol.”

Mae’r mudiad eisoes wedi cyflwyno her i Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol, atal allfudiad a defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.