Wrth i bwyllgor cwmni dur Tata gwrdd yn India heddiw i gynnal trafodaethau “tyngedfennol”, mae AC Plaid Cymru wedi codi cwestiynau ynglŷn â chynrychiolaeth o Gymru yn y cyfarfod.

Mae disgwyl i’r  cyfarfod ym Mumbai benderfynu ar dynged miloedd o weithwyr dur yn y wlad, yn enwedig ar y safle dur ym Mhort Talbot, lle mae 750 o weithwyr eisoes wedi clywed eu bod yn colli eu swyddi.

“O ystyried difrifoldeb y penderfyniad sy’n cael ei wneud heddiw, dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth geisio diogelu dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru,” meddai Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru De a Gorllewin Cymru.

“Dyna pam na alla’ i ddeall pam nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi anfon cynrychiolydd i Mumbai i gyflwyno achos diwydiant dur Cymru yn uniongyrchol i’r bwrdd.

“Nid yw Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol Cymru yn bresennol chwaith. Mae’r diwydiant hwn yn rhy bwysig i’w golli, a dw i’n gobeithio bod y ddwy lywodraeth wedi cyflwyno achos o ddifri’ i’r cwmni.”

‘Diwrnod anodd’

 

Mae Stephen Kinnock, AS Aberafan wedi teithio i India ar gyfer y cyfarfod.  Yn ogystal, mae cynrychiolwyr undebau a gweithwyr eisoes wedi cyflwyno’r achos dros y diwydiant i’r cwmni.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, fod hwn yn “ddiwrnod anodd i’r rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant dur wrth iddyn nhw aros i glywed y penderfyniad am ddyfodol gweithfeydd dur Port Talbot.”

“Mae gan Gymru draddodiad hir o gynhyrchu dur, a gallai’r diwydiant gael dyfodol da yma gyda’r gefnogaeth gywir gan y llywodraeth.

“Mae’n bwysig bod Tata yn gwybod fod y wlad gyfan tu ôl y gweithlu a bod ymrwymiad mawr i’r diwydiant dur a’r gweithlu yma, a dw i’n gobeithio fod Llywodraeth Cymru wedi cyfathrebu ag uwch reolwyr y cwmni.

Mae dros 35,000 o bobol wedi arwyddo llythyr agored i gadeirydd Tata, Cyrus Mistry, yn gofyn iddo gefnogi gwaith dur yn y DU.

‘Ystyried yr holl opsiynau’

 

Yn y cyfamser mae Gweinidog Busnes Llywodraeth San Steffan Anna Soubry wedi dweud wrth raglen Today ar BBC Radio 4 eu bod “yn ystyried yr holl opsiynau a allai fod ar gael i ni fel Llywodraeth.”

Ychwanegodd mai bwriad y Llywodraeth yw “sicrhau ein bod yn parhau i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot.”

 

Er hyn, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “beidio â chynllunio” ynglŷn â dyfodol y diwydiant.

Fe wfftiodd sylwadau Anna Soubry, nad oedd y cyn Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable wedi gwneud digon i helpu’r diwydiant yn ystod ei gyfnod yn y swydd rhwng 2010 a 2015.

Dywedodd Tim Farron fod Llywodraeth Prydain yn “methu” y diwydiant.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol.