Safle dur Tata ym Mhort Talbot
Fe fydd pwyllgor gweithredol cwmni dur Tata yn cyfarfod yn India heddiw i drafod dyfodol y cwmni ym Mhort Talbot, a allai olygu y bydd mwy o bobol yn colli eu swyddi yn yr ardal.

Mae cynrychiolwyr yr undebau dur yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi cynnal trafodaethau “adeiladol” ag uwch-swyddogion Tata ym Mumbai er mwyn ceisio eu darbwyllo i barhau i weithio yn y DU.

Bydd y cyfarfod heddiw yn penderfynu ar dynged miloedd o weithwyr dur yn y wlad, yn enwedig ar y safle dur ym Mhort Talbot, lle bydd 750 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Bu Alan Coombs, cadeirydd pwyllgor draws-undebol Port Talbot yn y trafodaethau, a dywedodd fod y dref wedi cael ei “hadeiladu ar y diwydiant dur.”

“Mae wedi rhoi mwy na swyddi yn unig i ni, mae wedi llunio ein bywydau a’n cymunedau,” meddai.

“Ar ran fy nhref, fy nghydweithwyr a fy niwydiant, byddaf yn gofyn i Tata gefnogi Port Talbot a’r cynllun i achub ein diwydiant dur.”

Roedd yr AS dros Aberafan, Stephen Kinnock, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community, Roy Rickhuss a chadeirydd Cyngor Gweithrediadau Ewrop Dur Tata, Frits van Wieringen yno hefyd.

Ewrop yn rhan o’r ‘ateb’

Rhai o’r problemau sy’n wynebu’r diwydiant ym Mhrydain yw’r swm sylweddol o ddur rhad sy’n dod o China a’r costau ynni cynyddol, ac mae galw ar y Llywodraeth i daclo’r rhain.

“Mae gan yr Undeb Ewropeaidd yr adnoddau i fynd i’r afael â dur rhad o dramor, ond penderfyniad yr aelodau yw defnyddio’r adnoddau hynny,” meddai Stephen Kinnock.

Dywedodd fod gwledydd eraill wedi gallu ysgwyddo’r baich cynyddol o gostau ynni drutach yn fwy hafal ar draws eu heconomi, ond mai’r diwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni fel y diwydiant dur, sydd wedi gorfod talu mwyaf yn y DU.

Mae dros 35,000 o bobol wedi arwyddo llythyr agored i gadeirydd Tata, Cyrus Mistry, yn gofyn iddo gefnogi gwaith dur yn y DU.