Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan (llun o wefan yr Eglwys yng Nghymru)
‘Nac ofnwch’ fydd neges Archesgob Cymru yn ei bregeth Sul y Pasg yng Nghadeirlan Llandaf yfory.

Gan gydnabod ein bod yn byw mewn hinsawdd o ofn, fe fydd y Parchedicaf Barry Morgan yn galw am ymateb di-drais i’r peryglon o’n cwmpas.

“Mae peidio ofni yn golygu gwrthod popeth sy’n caethiwo, darostwng a dad-ddyneiddio bod dynol arall a gwneud hynny’n ddi-drais,” meddai.

“Ymddengys bod braw yn cydio yn ein byd – i ddechrau mae bygythiadau cyson o ymosodiadau terfysgol ar bron bob dinas fawr ar draws y byd. Mae’r wlad hon a Llundain yn arbennig, yn wyliadwrus iawn rhag posibilrwydd o’r fath oherwydd y caiff ei hystyried fel targed blaenllaw. Mae’r digwyddiadau trasig ym Mrwsel yr wythnos hon wedi ychwanegu at y braw hwnnw.”

Ffoaduriaid a’r Undeb Ewropeaidd

Mae hefyd yn feirniadol o’r rheini sy’n codi ofnau’n barhaus ynghylch ffoaduriaid neu’r Undeb Ewropeaidd:

“Ar yr un pryd, mae llawer o wledydd yng Nghymru yn ofni cael eu llethu gan ffoaduriaid ac mae digonedd o bobl sy’n barod i brocio’r ofnau hynny. Ac mae’r ddadl am p’un ai i aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd, yng nghyswllt Prydain, yn aml yn bwydo ar ofnau pobl – ofnau am sofraniaeth a methu penderfynu dyfodol Prydain ac eto’r goblygiadau ariannol o orfod derbyn mwy o ffoaduriaid nag y gallwn eu fforddio.

“Byrdwn Iesu, yn adleisio geiriau Duw drwy Ei negeseuwyr o Genesis i Lyfr y Datguddiad yw ‘Nac ofnwch’.”

Fe fydd y gwasanaeth yn y Gadeirlan yn cychwyn am 11am a bydd croeso i bawb.