Ashley Williams (llun:CBDC)
Er mai gêm gyfeillgar yw’r ornest rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd heno, mae capten y tîm cartref o’r farn nad felly mae hi mewn gwirionedd.

“Pan rydach chi’n chwarae yn erbyn un o’r gwledydd cartref eraill nid yw byth yn gêm gyfeillgar mewn gwirionedd – rydych chi wastad eisiau ennill,” meddai Ashley Williams.

Ac mae’r capten yn wfftio unrhyw awgrym bod absenoldeb y sêr Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ynghyd â Ben Davies a Hal Robson-Kanu, yn rheswm i beidio â disgwyl ennill y gêm heno a’r ornest oddi cartref yn Yr Wcraen ddydd Llun.

“Rydyn ni wedi bod heb chwaraewyr o’r blaen ac mae pawb wedi dod fewn a gwneud yn weddol dda, felly byddwn ni’n gobeithio am rywbeth tebyg eto,” meddai.

“Byddwn ni’n anelu at ddwy fuddugoliaeth a pherfformiadau da yn y ddwy gêm nesaf.”

Mae Gogledd Iwerddon yn gorfod gwneud heb yr amddiffynnwr Chris Baird a’r chwaraewr ganol cae Chris Brunt.

Cymru v Gogledd Iwerddon yn fyw ar BBC2 gyda’r gic gyntaf am 7.45 yr hwyr. Uchafbwyntiau ar S4C am 10.30 yr hwyr.