Amgueddfa Cymru Caerdydd
Bydd gweithwyr amgueddfeydd Cymru yn mynd ar streic dros benwythnos y Pasg mewn ffrae dros weithio ar y penwythnosau.

Mae disgwyl i’r streicio ddechrau gydag aelodau Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PSC) yn gweithredu yn Amgueddfa Lofaol y Big Pit fory (ar ddydd Gwener y Groglith).

Bydd gweithwyr yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nrefach ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cymryd rhan yn y streic ddydd Sadwrn.

Bydd streicio ar ddydd Sul y Pasg hefyd, yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Bydd gweithwyr hefyd yn streicio yn y Big Pit ac Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd ar ddydd Llun y Pasg.

“Mae’r ffrae wedi para dwy flynedd ac mae ysbryd y gweithwyr ar ei isaf,” meddai Shavanah Taj, ysgrifennydd Cymru PCS.

“Rydym yn deall bod cyllideb yr Amgueddfa wedi cael ei thorri, ond dydyn ni ddim yn derbyn mai staff y rheng flaen, y rhai sy’n ar y cyflogau isaf, dylai orfod aberthu mwyaf, drwy beidio cael eu tâl dros y penwythnosau.”

Lansio cynllun ymddiswyddo gwirfoddol

Dywedodd yr amgueddfa ei bod yn wynebu gostyngiad o 4.7% yn ei grant gan Lywodraeth Cymru ar ben gostyngiad o 25% yn nhermau real dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Yn ôl yr amgueddfa, dydy hi ddim yn gallu parhau i roi taliadau premiwm i’w staff yn eu ffurf bresennol, sy’n costio tua £750,000 y flwyddyn.

“Mae datrys y ffrae hon nawr yn fater o argyfwng, oherwydd y pwysau o gael cyllideb lai. Felly, does dim dewis ond parhau i ymgynghori’n unigol â staff,” meddai llefarydd.

Mae’r amgueddfa bellach wedi lansio cynllun ymddiswyddo gwirfoddol sydd ar gael i bob aelod o staff yn y sefydliad.