Cafodd siop elusen Oxfam ym Mangor ei thrawsnewid neithiwr i fod yn gaffi ymgeiswyr etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Fe holwyd darpar ymgeiswyr lleol o bob un o’r prif bleidiau sy’n sefyll yn y rhanbarth etholiadol gan gynulleidfa sydd â phrofiad o dlodi ac yn gweithio i daclo tlodi yn lleol.

Yr ymgeiswyr lleol yn barod i rannu barn ar y noson oedd Aled Roberts, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol; Sion Jones, Ymgeisydd Arfon yn enw Llafur Cymru; a Sian Gwenllian, Ymgeisydd Arfon ar ran Plaid Cymru.

“Siopau Oxfam yw wyneb Oxfam yn y gymuned felly roeddem ni wrth ein boddau yn cynnal Caffi Ymgeiswyr cyntaf Oxfam Cymru yn ein siop yma ym Mangor, meddai Alison Blott-Asare, Rheolwr siop Oxfam ym Mangor.

“Roedd yn gyfle da i bobl leol ddod draw i leoliad cyfarwydd i rannu eu profiadau, eu barn a’u syniadau a chael cyfle i gael trafodaeth iawn gyda’u hymgeiswyr lleol am yr hyn all gael ei wneud am y tlodi sydd ar ein stepen drws ni.”

“Mae Etholiad Cymru yn prysur agosau ac rydym eisiau sicrhau bod darpar ymgeiswyr wedi cael cyfle i glywed yn uniongyrchol gan bobl sy’n byw yn y cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli; pobl sydd â phrofiad o dlodi a chaledi, neu bobl sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi yn y gymuned.

“Dyna pam rydym ni’n cynnal cyfres o bum Caffi Ymgeiswyr, gan ymweld a phob rhanbarth etholiadol yng Nghymru.”