Joe Marler
Fe fydd Joe Marler yn wynebu gwrandawiad annibynnol yn dilyn sylwadau sarhaus am brop pen tynn Cymru Samson Lee.

Cafodd y sylwadau gan brop Lloegr yn ystod y gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr bythefnos yn ôl, gan arwain at ymchwiliad gan drefnwyr y Bencampwriaeth.

Penderfynodd y Chwe Gwlad yn wreiddiol na fyddai Marler yn wynebu cosb, ond mae’r corff sy’n rheoli’r gamp yn rhyngwladol, World Rugby, bellach wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal gwrandawiad annibynnol, a hynny “cyn gynted â phosib”.