Bydd £29 miliwn yn cael ei wario ar gynlluniau teithio dros y blynyddoedd nesaf a sefydlu Comisiynydd Traffig Annibynnol i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwario £210,000 ar y swydd, a fydd yn cael ei chefnogi gan dri aelod o staff llawn-amser, dwyieithog.

Mae Cymru ar hyn o bryd yn dod o dan ofal Comisiynydd Traffig Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn yr Adran Drafnidiaeth.

Os caiff y swydd ei datganoli gan Lywodraeth y DU, bydd £150,000 yn mynd i boced y Comisiynydd newydd, gyda chost untro o £60,000 yn cael ei wario ar y broses recriwtio a sefydlu swyddfa.

Dywedodd y Gweinidog dros Drafnidiaeth, Edwina Hart: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu Comisiynydd Traffig Annibynnol i Gymru ac rwy’n falch y gallwn bellach gadarnhau bod y cyllid ar gael ar gyfer y swydd hon.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli’r swydd gyda’r nod o ddechrau’r broses recriwtio cyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf.”

38 cynllun ledled y wlad

Mae’r cynlluniau teithio eraill yn cynnwys gwario ar 38 cynllun ledled Cymru, sy’n cynnwys ariannu ffyrdd a chludiant cyhoeddus.

Daw’r cynlluniau fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol Cymru a gafodd ei beirniadu’r mis diwethaf am beidio â bod yn ddigon ‘uchelgeisiol’.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, y byddai’r cynlluniau yn “creu twf economaidd, yn lleihau tagfeydd ac yn hybu teithio llesol (active).”

Mae rhai o’r cynlluniau yn cynnwys,

  • £1.498m ar gyfer ffordd gyswllt yr A48-A473 i wella mynediad i Ystad Ddiwydiannol Waterton ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
  • £1.12m ar gyfer y ganolfan drafnidiaeth integredig ym Mhort Talbot ger Gorsaf Reilffordd Parcffordd .
  • £1.75m tuag at adeiladu Cam 1 a Cham 2 Ffordd Gyswllt Llangefni, a datblygu cynllun ar gyfer Cam 3.
  • £1.5m ar adeiladu rhan olaf Ffordd Ddosbarthu’r Morfa yn Abertawe.

Beicio a cherdded

Dywedodd y Gweinidog dros Drafnidiaeth, Edwina Hart, y bydd £11m yn mynd i ddatblygu llwybrau beicio a cherdded ar draws y wlad hefyd, er mwyn annog mwy o bobol i deithio heb gar.

Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan £17.6m o’r Gronfa Drafnidiaeth Leol, £5.2m o’r gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, £3.94m o’r Gronfa Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd a £1,936,741 o’r Gronfa Refeniw Diogelwch.