Mae Chris Coleman yn croesawu datganiad UEFA
Mae awdurdodau pêl-droed Ewrop wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gynnal Ewro 2016 y tu ôl i ddrysau caeedig er gwaethaf yr ymosodiadau ym Mrwsel.

Fe gododd y trychineb frawychol ddiweddaraf bryderon y gallai gemau yn y twrnament fydd yn cael ei chynnal yn Ffrainc yn yr haf gael eu chwarae heb gefnogwyr yn y stadiwm.

Ond mae UEFA wedi mynnu nad yw hynny wedi cael ei drafod – er eu bod wrthi’n gwneud paratoadau ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol yn dibynnu ar y sefyllfa ddiogelwch.

Cafodd hynny ei groesawu gan reolwr Cymru Chris Coleman, a ddywedodd ei fod yn “ymddiried yn UEFA i sicrhau bod popeth yn iawn” a bod y gystadleuaeth yn mynd yn ei blaen.

‘Ddim am ildio’

Fe fydd Cymru’n un o 24 gwlad fydd yn cystadlu yn y twrnament, ac mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr Cymru fod ymysg y rheiny fydd yn Ffrainc ym mis Mehefin a Gorffennaf.

Ac er bod Coleman yn dweud y byddai’n “deall” petai’r sefyllfa’n newid, a’r awdurdodau’n penderfynu nad oedd hi’n ddigon saff i gefnogwyr fod yn y meysydd, dywedodd mai ildio i’r brawychwyr fyddai hynny.

“Dw i’n gobeithio na fydd hynny’n digwydd. Dw i’n deall y pryderon ar ôl beth sydd wedi digwydd ond dw i yn meddwl petai hynny’n digwydd y bydden ni’n ildio i’r lleiafrif hurt yna,” meddai.

“Mae’n ddigwyddiad mor fawr, mae pawb eisiau ei weld, nid jyst y gwledydd sydd ynddi. Dyma fydd ein tro cyntaf ni yno.

“Pêl-droed yw’r gamp fwyaf yn y byd, mae pawb eisiau ei wylio ac fe fyddai hynny’n amddifadu pobol o’r hyn maen nhw’n ei garu. Gobeithio y bydd yn mynd yn ei flaen fel y disgwyl.”

‘Gweithio ar gynlluniau’

Mynnodd Coleman y byddai’r tîm yn parhau gyda’u paratoadau yn yr un modd petai’n rhaid chwarae’r gemau y tu ôl i ddrysau caeedig.

Ond fe ddywedodd UEFA nad oedd cynlluniau i wneud hynny ar hyn o bryd, er bod ymosodiadau brawychol eisoes wedi digwydd ym Mharis llynedd hefyd.

“Rydyn ni’n hyderus y bydd yr holl fesurau diogelwch yn eu lle ar gyfer Ewros saff a hwyliog ac felly does dim cynlluniau i chwarae gemau y tu ôl i ddrysau caeedig,” meddai UEFA.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n parhau i weithio ar gynlluniau wrth gefn ac ar wahanol senarios yn ymwneud â sefyllfaoedd argyfyngus gan ein bod ni’n cymryd diogelwch pawb sydd yn rhan o’r gystadleuaeth o ddifrif.”

Mae Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Belg bellach wedi cyhoeddi eu bod wedi gohirio gêm gyfeillgar roedden nhw wedi bwriadu’i chwarae yn erbyn Portiwgal ym Mrwsel nos Fawrth nesaf yn dilyn yr ymosodiad ddoe.