Tîm rygbi merched Llanbed yw Tîm yr Wythnos Golwg360 yr wythnos hon
Fe fydd tref Llanbedr Pont Steffan yn dathlu 150 o flynyddoedd o rygbi yng Nghymru ddydd Mercher gyda diwrnod o weithgareddau.

Mae’r dref yn cael ei hystyried yn fan geni’r gamp yng Nghymru yn dilyn yr ornest gyntaf yn 1866 rhwng Coleg Dewi Sant a Choleg Llanymddyfri ar gaeau chwarae safle Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn y dref.

Y Parchedig Athro Rowland Williams yw’r dyn oedd yn gyfrifol am ddod â’r gamp i Gymru, ac yntau’n Ddirprwy Brifathro Coleg Dewi Sant yn 1850 ac yn gyn-fyfyriwr yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt.

Câi gemau eu cynnal yn y coleg yn dilyn ei benodiad, ond nid tan 1866 y cafodd y gêm gystadleuol gyntaf ei chwarae.

Mae’r dathliadau’n cael eu cefnogi gan Undeb Rygbi Cymru.

Yn 1966, cafodd digwyddiadau eu cynnal i nodi canmlwyddiant y gêm gyntaf drwy gynnal gêm rhwng tîm Coleg Dewi Sant a thîm o wahoddedigion oedd yn cynnwys y diweddar Carwyn James, cyn-ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin, un o gymrodyr y Brifysgol Delme Thomas, a Barry John.

Digwyddiadau

Ymhlith y digwyddiadau sydd wedi’u trefnu ddydd Mercher mae gêm rhwng tîm merched y Brifysgol a thîm rygbi merched y Dref, a gêm rhwng y Brifysgol a thîm o Academyddion Cymreig.

Fel rhan o’r diwrnod, bydd yr hanesydd lleol, Selwyn Walters yn lansio’i lyfr ‘The Fighting Parsons’, sy’n olrhain hanes rygbi yn Llambed, a bydd cofeb i Rowland Williams yn cael ei dadorchuddio ar gampws y Brifysgol.

Dywedodd cadeirydd Cyngor y Brifysgol, Randolph Thomas: “Mae’r tymor rygbi 2015/2016 yn un arbennig iawn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

“Mae’n nodi 150 mlynedd ers chwarae’r gêm gystadleuol gyntaf o rygbi yng Nghymru yn ogystal â nodi cyfraniad Rowland Williams i’r gamp.

“Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o gysylltiad Llambed â’r gêm tra hefyd yn rhoi’r cyfle i staff a myfyrwyr y Brifysgol, trigolion Llambed a chefnogwyr rygbi ledled Cymru ddysgu mwy am hanes a tharddiad y bêl hirgron.

“Rydym yn falch iawn o rôl y Brifysgol yn natblygiad rygbi ac yn hynod bles i fod yn nodi’r pen-blwydd arbennig hwn gyda dathliad cyffrous.”

Tîm rygbi merched Llanbed yw  Tîm yr Wythnos Golwg360 yr wythnos hon.