Mae un lôn ynghau o hyd ar yr A55 i’r gorllewin ar ôl i dancer ollwng cemegyn ar y ffordd fore Mawrth.

Dywedodd llefarydd Heddlu’r Gogledd wrth Golwg360 eu bod nhw “wrthi’n ceisio datrys y sefyllfa” ar hyn o bryd.

Fe fu cryn oedi i deithwyr ers bore ddoe wrth i dimau o ddiffoddwyr tân o Fae Colwyn, Bangor, Abergele a Wrecsam geisio clirio’r llanast.

Cafodd y gwasanaeth tân ei alw i’r digwyddiad am 10.48 fore Mawrth, ac roedd uned amddiffyn yr amgylchedd ar y safle hefyd.