Bydd pob plentyn blwyddyn 7 yng Nghymru yn cael cyfrifiadur maint poced o heddiw ymlaen i’w cadw er mwyn i blant gael dysgu mwy am godio ac ysgogi eu diddordeb mewn cyfrifiadureg.

Daw’r teclynnau bach hyn, y micro:bit, o fenter Make it Digital y BBC, a bydd modd i blant godio eu teclynnau personol i greu gemau, watshis clyfar a phob math o bethau eraill.

Dywedodd y gorfforaeth mai dyma yw ei phrosiect addysg fwyaf uchelgeisiol ers 30 o flynyddoedd, ers helpu i gyflwyno’r wlad i gyfrifiaduron yn y 1980au.

Bydd y micro:bit hefyd yn cael ei rhoi i blant o’r un oedran yn yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn creu “cenhedlaeth newydd o arloeswyr digidol”.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall y gall y teclyn newydd helpu plant i ddatblygu’n “codwyr, rhaglenwyr ac arloeswyr digidol y dyfodol”.

“Chwyldro codio”

Yn ôl y BBC, mae’r teclynnau yn hawdd i’w defnyddio, a bydd y plant yn gallu eu codio drwy fynd ar wefan micro:bit neu drwy ap ar ffonau symudol.

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys adnoddau i helpu athrawon, rhieni a disgyblion i’w helpu i ddefnyddio’r teclynnau.

Bydd modd i’r disgyblion i’w defnyddio drwy gydol eu hamser yn yr ysgol a mynd â nhw adref hefyd, gan eu cadw am byth.

Mae’r micro:bits am ddim i’r plant ond bydd modd i’w prynu yn y dyfodol, gyda’r arian sy’n cael eu codi ohonynt yn mynd at hyrwyddo’r “chwyldro codio”.

Helpu plant i ddysgu’n well

“Pan fyddwch chi’n rhoi teclyn fel hwn i’r plant, mae’n apelio atynt yn syth. Drwy roi’r micro:bit yn nwylo plant a’u dechrau ar y broses codio, rydych chi’n datblygu eu sgiliau rhesymu a meddwl yn gyfrifiadurol,” meddai Allen Heard, Pennaeth Technoleg Gwybodaeth Ysgol Bryn Elian, ym Mae Colwyn.

“Mae’n eu helpu i ddod yn ddysgwyr cryfach oherwydd maen nhw’n fwy tebygol o ddatrys problemau ar eu liwt eu hunain yn hytrach na gofyn i rywun am yr ateb.”

Mae’r fenter yn rhan o brosiect ar y cyd rhwng cwmnïau mawr fel Barclays, Microsoft a Samsung, Prifysgol Lancaster, sydd wedi dylunio a datblygu rhannau o’r teclyn, a’r BBC ei hun.