Traffig yn cael ei ddargyfeirio ger Bae Colwyn Llun: Heddlu'r Gogledd
Mae ffordd yr A55 ger Bae Colwyn wedi gorfod cau i’r ddau gyfeiriad ar ôl i gemegyn ollwng o dancer ar hyd y ffordd.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn debygol y bydd y ffordd ynghau am rai oriau.

Mae oedi hir  i deithwyr ar hyn o bryd wrth i griwiau tân o Fae Colwyn, Bangor, Abergele a Wrecsam geisio clirio’r llanast.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y gogledd ei galw i’r digwyddiad am 10:48 y bore ‘ma ac mae uned amddiffyn yr amgylchedd y gwasanaeth yno hefyd.

Y cyngor ar hyn o bryd i deithwyr yw defnyddio llwybrau gwahanol wrth i’r gwasanaethau argyfwng geisio rheoli’r sefyllfa.