Mae rhestrau aros mewn unedau brys ysbytai Cymru wedi mynd yn waeth dros y mis diwethaf.

Yn ystod mis Chwefror 2016, roedd nifer y bobol oedd wedi aros llai na phedair awr cyn cael eu trin wedi gostwng i 77.2%.

78.5% oedd y ffigwr ym mis Ionawr eleni, ac mae tipyn yn is na tharged Llywodraeth Cymru o 95%.

Dim ond un Bwrdd Iechyd Lleol a lwyddodd i gyrraedd y targed hwn, sef Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd, Andrew Goodall, hefyd wedi mynegi pryder bod rhai cleifion yn dal i orfod aros 12 awr cyn cael eu gweld gan feddyg mewn adrannau brys.

Y gaeaf yn cynyddu’r pwysau

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y ffigurau’n adlewyrchu’r cynnydd yn nifer y bobol a aeth i adrannau brys dros y mis diwethaf.

Yn ôl y llywodraeth, bu 112 o gleifion bob awr yn ymweld â’r adrannau brys yng Nghymru, sef y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2006.

Achosion o ffliw a chynnydd yn nifer yr achosion o’r norofirws sy’n gyfrifol am roi mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, yn ôl ei brif weithredwr, Dr Andrew Goodall.

Bu cynnydd hefyd o 8% yn nifer y bobol dros 85 oed a ymwelodd ag adrannau brys y gwasanaeth.

Ar ddechrau mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £45 miliwn yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd i reoli pwysau’r gaeaf.

“Mae nifer y bobl sy’n ceisio gofal brys wedi codi’n sylweddol ers y Nadolig wedi i’r pwysau a welir fel rheol yn y gaeaf gyrraedd yn hwyrach na’r blynyddoedd blaenorol,” meddai Andrew Goodall.

 

Pryderon dros bobol sy’n aros dros 12 awr

Ar gyfartaledd, meddai, mae pobol yn treulio dwy awr a 10 munud mewn adran frys ond mynegodd ei bryder dros bobol sy’n gorfod treulio dros 12 awr cyn cael eu gweld gan feddyg.

“Rwy’n poeni am nifer y bobl sy’n treulio dros 12 awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn neu eu rhyddhau ac rwyf wedi mynegi fy nisgwyliadau yn glir.”

“Rydyn ni wedi gosod sawl cam ar waith ar draws yr holl system yn ystod yr wythnos ddiwethaf mewn ymgais i sicrhau gwelliannau ar unwaith, ac fe fyddwn yn cadw llygad fanwl ar y sefyllfa.”