Rhiannon Hincks sy'n byw ym Mrwsel
“Dim ond wrth edrych allan drwy’r ffenest dw i’n gweld sawl ambiwlans yn rhuthro heibio.

Mae ’na seirenau’n sgrechian ac mae ’na bobl yn crïo ar y stryd. Dw i’n gweld ceir yn troi’n ôl yn lle mynd ymhellach i ganol y ddinas, ac mae jest yn ofnadwy,” meddai Rhiannon Hincks sy’n byw ym Mrwsel wrth golwg360.

Esboniodd ei bod yn byw yn Uccle yn ne’r ddinas, “felly nes i ddim clywed y ffrwydradau bore yma gan ein bod ni’n eitha’ pell o’r maes awyrennau. Ond, roedd gen i lwyth o negeseuon gan deulu a ffrindiau’n gofyn a oeddwn i’n iawn, a hynny cyn imi glywed y newyddion yn iawn.

“Dw i methu credu bod nhw wedi ymosod ar y Metro – dw i’n defnyddio’r Metro bob dydd er mwyn cyrraedd at yr orsaf drenau i fynd i’r Brifysgol,” meddai’r ferch sy’n wreiddiol o Aberystwyth ac yn astudio gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Leuven.

“Amser hyn bore ddoe, byddwn i wedi bod ar y Metro neu yn yr orsaf ar fy ffordd i’r Brifysgol, mae jest yn hap a damwain mod i ddim yno bore yma, a dw i’n teimlo mor lwcus.”

‘Disgwyl rhywbeth arall’

“Mae jest mor drist bod pobl wedi cael eu lladd yn barod,” meddai.

“Mae gen i un ffrind sy’n byw yn eitha’ agos at le wnaeth un o’r ffrwydradau ddigwydd, a dw i’n poeni’n fawr.”

Esboniodd fod yr heddlu wedi cau’r Metro, a’r ddinas ar ei lefel uchaf o wyliadwraeth.

“Dw i ddim yn mynd i adael y tŷ o gwbl heddiw. Mae’r teulu dw i’n aros gyda nhw wedi mynd allan i’w gwaith ac mae’r plant yn yr ysgol, dw i ddim yn siŵr a fydd y plant yn cael eu hanfon adref neu beidio.”

“Yn amlwg, dyn ni’n disgwyl y bydd rhywbeth arall yn digwydd, ond does neb yn gwybod beth ac mae’r tensiwn yn ofnadwy.”

Tensiwn yn parhau

“Mae’r tensiwn wedi bod yma ers mis Tachwedd i ddweud y gwir,” meddai gan ddweud wrth golwg360 bryd hynny ei bod “fel bod mewn rhyfel,” pan gafodd cyrchoedd gwrth-frawychiaeth eu cynnal.

“Wnaeth y tensiwn godi eto yn ddiweddar pan wnaeth yr awdurdodau ddweud fod Salah Abdeslam yn y wlad.

“Mae jest yn ofnadwy, ac oeddwn i’n disgwyl ymlaen i ddal awyren adref ar gyfer gwyliau’r Pasg diwedd yr wythnos nesaf.

“Dw i ddim yn siŵr beth sydd orau i wneud nawr – dal awyren cyn gynted â phosib, neu aros.”

Cyfweliad: Megan Lewis