Mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg ryddhau manylion pellach heddiw ynglŷn â’r newidiadau i hyfforddiant addysg i athrawon yng Nghymru.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys ymestyn y cwrs israddedig i bedair blynedd, cynnig mwy o gyfle i arbenigo mewn pynciau penodol a chyflwyno cwrs dwy flynedd i ôl-raddedigion.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, y llynedd y byddai’r trefniadau presennol yn dod i ben, a hynny’n dilyn adroddiad ar Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru.

Esboniodd fod y datblygiadau’n rhan o gynllun i gael proffesiwn o athrawon ar lefel meistr yn y dyfodol.

‘Modd radical’

Dywedodd y Gweinidog Addysg y bydd cyfle gan y sector addysg ehangach i gyfrannu at lunio’r meini prawf a datblygu cyrsiau ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.

“Rwyf wedi bod yn glir ynghylch bod yn rhaid i ni wneud mwy i gyflymu gwelliant o ran darpariaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon ledled Cymru,” meddai Huw Lewis.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni barhau â’n rhaglen o ddiwygio addysg mewn modd radical, gan ganolbwyntio ar godi safonau’n gyffredinol.

“Mae ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rhaglen feistr bedair blynedd ar gyfer israddedigion, er mwyn i athrawon gael gwell sylfaen o ran egwyddorion addysgeg, a bod yn fwy cymwys i ymdrin â sefyllfaoedd ymarferol yr ystafell ddosbarth.

“O ran y llwybr ôl-raddedig, rwyf innau a’r Athro Furlong o’r farn bod angen cyrsiau dwy flynedd er mwyn paratoi athrawon y dyfodol yn briodol ar gyfer eu gyrfaoedd.

‘Gweledigaeth’

Dywedodd yr Athro John Furlong, Cynghorydd Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru, “er mwyn denu a chadw pobl o’r safon uchel ofynnol a sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol i gyfrannu’n effeithiol i’r system addysg newydd yng Nghymru – mae angen ffurf ar addysg gychwynnol athrawon sy’n drylwyr o safbwynt ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol.”

“Mae’n weledigaeth lle bydd ysgolion a phrifysgolion fel ei gilydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r addysg o safon uchel i athrawon sydd ei hangen ar Gymru ar gyfer y dyfodol.”