Fe fydd cannoedd o filoedd o bobol ledled Cymru yn uno i nodi’r Awr Ddaear Fyd-eang am 8.30yh heno.

Trwy ddiffodd y golau am awr, fe fyddan nhw’n gweithredu’n sumbolaidd er mwyn dangos cariad at y blaned, ac yn dangos eu hangerdd tros warchod yr holl bethau sy’n gwneud y Ddaear yn arbennig.

Mae enwau mawr fel Nigel Owens, Dr Rhys Jones, Jamie Baulch, Jonathan Davies, Dereck Brockway, Sarra Elgan a Ruth Wignall hefyd wedi cefnogi ymgyrch flynyddol y WWF.

A hyd y lled y wlad, fe fydd tirnodau ac adeiladau eiconig yn treulio awr yn y tywyllwch dros yr achos. Fe fydd Cadw yn gwneud yn siwr fod goleuadau cestyll a mannau hanesyddol eraill yn cael eu diffodd heno – o Gaerffili i Gaernarfon – ac fe fydd Stadiwm Dinas Caerdydd a Stadiwm Liberty yn gwneud yr un fath. Ac wedi’r gêm fawr y pnawn yma yng Nghaerdydd, fe fydd Stadiwm Principality hefyd yn diffodd golau ei arwydd mawr. 

Mannau eraill sy’n diffodd eu goleuadau heno ydi Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth; canolfan gelfyddydau newydd Pontio y Mangor; ynghyd â Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.

Yn yr un modd, fe fydd siop adrannol John Lewis yn y brifddinas yn y tywyllwch am 8.30yh heno, fel y bydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne; ac Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe, ac Amgueddfa Cymru Caerdydd.