Mae grŵp o fudiadau iaith a gynrychiolir ar Bwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn wedi comisiynu ymgynghoriaeth iaith hanfod i wneud asesiad o effaith ieithyddol Cynllun Datblygu Lleol y ddwy sir.

Daw’r cyhoeddiad gan y grŵp sy’n cynnwys mudiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai yn dilyn cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd heddiw i drafod y dull aed ati i gloriannu effaith y cynllun datblygu ar yr iaith Gymraeg.

Y cefndir

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ar gyfer y ddwy sir yn dynodi bod angen dros 7,900 o dai ychwanegol dros y 15 mlynedd nesaf.

Fe wnaeth y Cynghorwyr basio gwelliant heddiw a oedd yn nodi fod Asesiad Iaith y Cynllun Datblygu Lleol yn “ddogfen byw” ac yn gofyn i’r Cyngor ymgynghori ar ffyrdd o “gyfoesi monitro effaith y sefyllfa gynllunio bresennol ac arfaethedig ar y Gymraeg.”

Meddai’r gwelliant y dylai hynny ddigwydd gyda defnydd llawn o ffigurau cyfrifiad 2011 a hefyd gydag ystyriaeth o “addasrwydd gwaelodol y nifer tai a phoblogaeth sy’n sail i’r cynllun.”

‘Diffygion’

Yn ol Ieuan Wyn, ysgrifennydd Cylch yr  Iaith, wrth golwg360, mae diffygion yn ansawdd yr asesiad iaith gwreiddiol a bod y sefyllfa yn lawer iawn gwaeth na mae’r swyddogion cynllunio’n cydnabod.

Meddai fod yr asesiad iaith newydd wedi cael ei gomisiynu er mwyn cael “dehongliad gwahanol o’r ffigyrau a’r sefyllfa ieithyddol.”

Y bwriad yw cyflwyno’r asesiad iaith newydd i’r cynghorwyr a swyddogion cynllunio’r cyngor.

‘Trafodaeth adeiladol’

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faes Cynllunio ei fod yn croesawu’r “drafodaeth adeiladol” ac yn “falch gyda’r penderfyniad a gymeradwywyd bron yn unfrydol.”

Meddai: “Nodwyd fod Asesiad Iaith y Cynllun Datblygu Lleol yn ‘ddogfen byw’ ac rydym eisoes yn ystyried sut yn union y byddwn yn mynd ati i fonitro effaith sefyllfa gynllunio bresennol ac arfaethedig ar y Gymraeg a sut y byddwn yn ymgynghori gyda chyrff perthnasol.”