Mark Richard Davies, neu 'Major'
Mae consuriwr sydd wedi’i gael yn euog o gamdrin plant yn rhywiol, wedi cael ei garcharu am 14 blynedd.

Fe fu Mark Richard Davis, 55, a oedd hefyd yn defnyddio’r enw perfformio Major, yn manteisio ar ei gysylltiadau ag elusennau a sefydliadau pobol ifanc ledled gwledydd Prydain, er mwyn troseddu. Roedd wedi gwadu 17 o gyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd, o gamdrin ac o dynnu lluniau bechgyn.

“Mae ymchwilio i droseddau rhyw yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru,” meddai llefarydd ar ran y llu. “Rydyn ni bob amser yn gwneud yn siwr fod y dioddefwyr yn cael eu diogelu.

“Mae’r ddedfryd sydd wedi’i rhoi i Mark Richard Davis yn adlewyrchu’r effaith dinistriol gafodd ei weithredoedd ar ei ddioddefwyr.”