Heddiw, fe fydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn arian newydd yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer twristiaeth yng Nghymru – ac mae’n werth hyd at £85m, y buddsoddiad un tro mwyaf gan yr UE yn y sector.

Nod y prosiect ‘Cyrchfannau Denu Twristiaeth’, gyda chymorth £27.7m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yw creu deg o gyrchfannau ‘bythgofiadwy’ i godi proffil Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr, hen a newydd, fynd ar eu gwyliau. Y bwriad ydi sicrhau 10% o dwf yn y sector twristiaeth yng Nghymru erbyn 2020.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn dod â ni gam yn nes at greu cyrchfannau eiconig yng Nghymru,” meddai Edwina Hart. “Mae ein strategaeth twristiaeth ar gyfer Cymru yn ystyried yr angen i ddatblygu mwy o gynhyrchion sy’n rhoi enw da i Gymru.

“Drwy ganolbwyntio ymdrechion a buddsoddiad ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth, gallwn gael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol fyd-eang hon.

“Y nod yw i’r cyrchfannau hyn roi rheswm cryf i bobl ymweld â Chymru neu aros yn y wlad ar eu gwyliau,” meddai wedyn. “Trwy ddenu ymwelwyr i’r safleoedd allweddol hyn bydd yr ardaloedd ehangach hefyd yn elwa o fuddsoddiad pellach mewn busnesau a bydd yn sicrhau canlyniadau allweddol o ran swyddi ac adfywio.”

Y ffigyrau 

* Mae twristiaeth yn un o’n sectorau allweddol ac mae’n creu £8.7 biliwn ar gyfer economi Cymru;

* Mae’r sector twristiaeth yn cyflogi 15% o’r gweithlu.