Lesley Griffiths
Mae cynllun wedi’i sefydlu i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ail-sefydlu eu hunain yng Nghymru.
Dros gyfnod o dair blynedd bydd cefnogaeth ieithyddol a chyfleoedd i ffoaduriaid fedru addasu i fywyd yng Nghymru.
Bydd y gefnogaeth ieithyddol yn cael ei theilwra gan bob cyngor sir, felly bydd yn ddibynnol arnyn nhw a fydd y ffoaduriaid yn gallu dysgu Saesneg yn unig neu Gymraeg hefyd.
Bydd y cynllun yn ceisio helpu pob ffoadur a cheisiwr lloches yng Nghymru, gan gynnwys pobol sy’n ffoi o Syria.
Wrth gyhoeddi’r cynllun heddiw, dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths, ei bod yn “hanfodol” cydnabod yr amrywiaeth eang o sgiliau sydd gan geiswyr lloches a ffoaduriaid, a’u cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas”.
Bydd y cynllun yn cynnwys:
- Helpu ffoaduriaid i gael mynediad i gartrefi addas
- Mynediad i wasanaethau cyngor am ddim ar ddyledion, tai, cyflogaeth, budd-daliadau a gwahaniaethu
- Sicrhau bod plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth, i’w hatal rhag cael eu harwahanu yn gymdeithasol
- Datblygu canllawiau i sicrhau bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cael y gwasanaethau gofal iechyd sydd angen arnynt
- Darparu cefnogaeth o ran cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi.
- Sicrhau mynediad i gyfleoedd addysgol
- Taclo bwlio mewn ysgolion yn erbyn plant sy’n ceisio lloches
- Codi ymwybyddiaeth o gefnogaeth i ddioddefwyr troseddau casineb.
“Mae nifer o’r ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru wedi profi erchyllterau ofnadwy, ac mae rhyfel wedi rhwygo eu bywydau. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi iddynt yr holl gymorth a chefnogaeth y mae arnynt ei angen i ailadeiladu eu bywydau,” meddai’r Gweinidog Cymunedau.
Daw’r cyhoeddiad yn sgil ymrwymiad y Gweinidog yr wythnos ddiwethaf i barhau i ariannu wyth Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol i weithio gydag awdurdodau lleol i hybu perthnasoedd cadarnhaol mewn cymunedau.