Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Mae rebel mwyaf Plaid Cymru wedi sôn am y “brad” roedd yn teimlo ar ôl deall bod ei blaid wedi pleidleisio yn erbyn gwahardd e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus ddoe.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wrth BBC Cymru, nad oedd yn ymwybodol o benderfyniad munud olaf Plaid Cymru i beidio â chefnogi’r bleidlais ar wahardd e-sigarennau yn y Cynulliad.

Doedd y cyn-arweinydd ddim yn gallu bod yn bresennol yn y bleidlais am ei fod yn Nhŷ’r Arglwyddi, ond roedd yn cefnogi’r Mesur ac wedi siomi yn arw nad oedd wedi cael ei basio.

Tra mae Dafydd Elis-Thomas o blaid y gwaharddiad, mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn erbyn – ond roedd y ddau wedi cytuno i beidio pleidleisio ddoe, yn ôl Dafydd Elis-Thomas, er mwyn “canslo” pleidleisiau ei gilydd.

 ‘Siom gwaethaf’ Dafydd Êl

“Doeddwn i ddim yn meddwl – drwy beidio â bod yn bresennol – y byddwn i wedi cyfrannu at golli deddfwriaeth bwysig,” meddai Dafydd Elis-Thomas wrth BBC Cymru.

“Rwyf wedi profi sawl siom yn ystod y Cynulliad presennol o ran fy mherthynas gyda’r Blaid, ond hwn yw’r gwaethaf.”

Ond mae Plaid Cymru yn bendant na fu unrhyw frad o fath yn y byd.

“Gofynnodd Dafydd Elis-Thomas am gael ei baru fel ei fod yn gallu mynd i Dŷ’r Arglwyddi ddoe,” meddai llefarydd.

“Felly, nid oedd yn y cyfarfod grŵp brynhawn ddoe pan wnaed y penderfyniad unfrydol.”