Christine James
Fe fydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i’r cysylltiad a gafodd Heddlu De Cymru gyda dynes a gafodd ei llofruddio, cyn i’w chorff gael ei ddarganfod.

Cafwyd hyd i gorff  Christine James, 65, yn ei fflat ym Mae Caerdydd ar 2 Mawrth ar ôl iddi fethu a chyrraedd maes awyr Gatwick ar gyfer taith i Florida.

Mae Kris Wade, 36, o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio.

Roedd Heddlu’r De wedi cyfeirio’r achos at yr IPCC.