Fe fydd ymgyrchwyr yn nhref Aberystwyth yn cynnal protest dros y penwythnos i wrthwynebu’r bygythiad o gau Swyddfa’r Post yn y dref.

Mae Swyddfa’r Post ar y stryd fawr wedi ei lleoli mewn adeilad rhestredig, a dyma unig Swyddfa’r Post y Goron yng Ngheredigion.

Mae’n bosib y bydd y swyddfa’n cael ei chau a’i hail-leoli mewn siop arall yn y dref. Fe all hyd at saith o bobl golli eu swyddi.

Un o’r siopau sy’n cael ei hystyried i gynnal y gwasanaeth yw siop gadwyn WH Smith ar Ffordd y Môr. Mae newidiadau tebyg wedi digwydd yn nhref Caerfyrddin, wrth i Swyddfa’r Post  gael ei symud i siop arall.

Ym mis Ionawr, sefydlwyd deiseb ar-lein i wrthwynebu’r bygythiad o gau Swyddfa’r Post yn Aberystwyth, gyda chefnogaeth gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones.

‘Effaith andwyol’

“Dy’n ni’n gwybod bod swyddfeydd post yn cau mewn trefi a phentrefi llai, ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’n digwydd mewn tref o faint Aberystwyth,” meddai Endaf Edwards, Maer y dref wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod Aberystwyth yn eithriad oherwydd pwysigrwydd myfyrwyr i’r dref a’r pellter rhwng trefi eraill.”

Fe esboniodd y byddai ail-leoli’r gwasanaeth mewn siop arall yn “cyfyngu ar yr ystod o wasanaethau.”

“Byddai hefyd yn rhoi mwy o bwysau ar bobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ond does dim pawb â mynediad at hynny, yn enwedig y genhedlaeth hŷn. A chyda’r boblogaeth yn heneiddio yng Ngheredigion, mae’n mynd i adael effaith andwyol ar y dre’ a’r ardal.”

‘Dylanwadu’

Fe ychwanegodd ei fod yn pryderu am y swyddi sydd yn y fantol ac am bosibiliadau cynllunio’r  “adeilad hanesyddol.”

Fe fydd yr orymdaith yn dechrau o faes parcio Trefechan ddydd Sadwrn, Mawrth 19 am 10.45am, gan orffen ar Sgwâr Owain Glyndŵr gyda rali o siaradwyr a cherddorion.

“Ein gobaith yw y byddwn ni’n dylanwadu ar Swyddfa’r Post i beidio â pharhau â’r cynlluniau, gan ddangos bod yr ardal yn erbyn hyn.”