Lesley Griffiths
Mae cynllun newydd wedi cael ei sefydlu yng Nghymru i wella cydraddoldeb ymysg pobol drawsrywiol ledled y wlad.

Bydd y Cynllun Gweithredu Trawsryweddol, a gafodd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi heddiw, yn mynd i’r afael â bwlio a chodi ymwybyddiaeth ymysg pobol sy’n gweithio gyda phobol ifanc drawsrywiol.

Dywedodd Lesley Griffiths AC, mai’r nod yw lleihau troseddau casineb trawsffobig, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Rhwystrau bob dydd

Bydd y cynllun hefyd yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i ystyried dulliau o ddileu rhwystrau sy’n atal pobol drawsrywiol rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae cynlluniau hefyd i fynd i’r afael â “rhwystrau” i bobol drawsrywiol o fewn y Gwasanaeth Iechyd a Gwasanaeth Tai.

Bydd yr asiantaeth Busnes Cymru hefyd yn rhoi canllawiau ar ei gwefan a fydd yn helpu cyflogwyr  i gefnogi unigolion trawsrywiol yn y gweithle.

Daw’r cynllun o ymgynghoriad y Llywodraeth y llynedd i wella cydraddoldeb i bobol drawsrywiol Cymru, gan ganolbwyntio ar bobol ifanc yn bennaf.

Gweinidog yn “hollol ymrwymedig”

Yn ei chyhoeddiad heddiw, dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn “hollol ymrwymedig i sicrhau bod y rhwystrau i gydraddoldeb ar gyfer pobol drawsryweddol yn cael eu dileu.”

“Rwyf am weld y Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw a fydd yn gallu datblygu ymhellach wrth i ni barhau i weithio gyda’r gymuned drawsryweddol,” meddai.