Mae cerddwr, 28 oed, mewn cyflwr difrifol ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad a char yn Aberdâr yn oriau man fore dydd Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4059 ger archfarchnad Tesco wrth i’r dyn gerdded wrth ymyl  y cylchfan tua  1.45yb bore dydd Sul, 13 Mawrth.

Bu mewn gwrthdrawiad a char Vauxhall Vectra lliw arian a chafodd ei gludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr gydag anafiadau difrifol.

Ni chafodd y teithwyr yn y car eu hanafu.

Roedd y dyn yn gwisgo crys-t llwyd a jîns glas pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ac mae Heddlu’r De yn apelio am dystion i’r digwyddiad. Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r dyn ger y safle cyn y ddamwain gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1600086652.