Mae ymgyrchwyr iaith wedi codi pryderon ar ôl iddi ddod i’r amlwg y gallai cynllun i hybu’r Gymraeg ymysg plant a’u rhieni gael ei thorri bron yn llwyr yn y gogledd.

O fis Ebrill ymlaen fe fydd cyfrifoldeb dros weithredu’r cynllun ‘Cymraeg i Blant’ yn trosglwyddo oddi wrth Twf i’r Mudiad Meithrin, wedi iddyn nhw ennill y tendr diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Llywodraeth wedi cwtogi’r arian maen nhw’n wario ar ‘Cymraeg i Blant’ o £700,000 i £500,000.

Mae golwg360 ar ddeall y bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn golygu cael gwared â swyddogion mewn sawl rhan o Gymru, yn bennaf mewn ardaloedd ble mae’r iaith ar ei chryfaf, ar ôl i gyllid y rhaglen gael ei chwtogi.

Fe fydd hynny’n gadael ond un swyddog yn y gogledd – yng Nghonwy – o’i gymharu â deg swyddog fydd yn gyfrifol am ardaloedd yn ne a chanolbarth Cymru.

Roedd Twf yn cynnal gweithgareddau yng Ngwynedd, Môn, Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Conwy yn unig fydd yn elwa dan y cynllyn newydd, o safbwynt y gogledd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru “bydd yr ardaloedd sy’n cael eu blaenoriaethu gan y rhaglen yn cael eu hadolygu drwy gydol y prosiect er mwyn sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosib yn cael cefnogaeth”.

‘Lle mae’r Gymraeg ar ei gwannaf’

Y disgwyl yw y bydd y Mudiad Meithrin yn cyflogi swyddogion llawn amser yn Abertawe / Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd / Blaenau Gwent, Conwy, Caerffili / Merthyr, Caerdydd, De-ddwyrain Caerfyrddin, Pen-y-bont / Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, a Phenfro.

Fe fyddai swyddogion maes rhan amser hefyd yn cael eu cyflogi ar gyfer Gogledd a De Powys.

Mae’n debyg fod y Mudiad Meithrin wedi penderfynu canolbwyntio’n bennaf ar ardaloedd o Gymru ble maen nhw’n credu bod addysg Gymraeg ar ei gwannaf.

Ond mae hynny wedi siomi Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i leisio’u pryderon.

“Deallwn fod y penderfyniad ynghylch y cwtogiadau ariannol wedi ei wneud, ond, pryderwn am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar wahanol ardaloedd o Gymru,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg y mudiad.

Colli swyddi

Mae golwg360 ar ddeall bod disgwyl i sawl un o swyddogion presennol Twf gael gwahoddiad i drosglwyddo i’r prosiect newydd.

Ond gyda dim ond 11 swyddog yn cael eu cyflogi o dan gynllun y Mudiad Meithrin, fe fydd sawl un o’r gweithwyr presennol yn wynebu colli swyddi.

Ar hyn o bryd mae naw swyddog Twf yn cael eu cyflogi yn ardaloedd gogledd Cymru – ond dim ond un fyddai angen yng Nghonwy yn dilyn y newidiadau.

Ond yn ôl un swyddog Twf oedd am aros yn ddienw, mae’r Mudiad Meithrin wedi penderfynu pa ardaloedd i ganolbwyntio arnyn nhw ar y sail bod y Gymraeg yn wannach yno ac ar sail “data Cylchoedd Meithrin yn unig”.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn parhau yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

“Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn gweithredu ar lefel genedlaethol o ran hyrwyddo negeseuon am drosglwyddo iaith, a byddwn yn cydweithio â nifer o bartneriaid i sicrhau hyn.

“O ran y gweithredu dwys, mae nifer o ffynonellau data, gan gynnwys rhagolygon niferoedd plant a holiaduron rhieni wedi cael eu defnyddio er mwyn llywio’r broses o ddethol yr ardaloedd. Bydd yr ardaloedd sy’n cael eu blaenoriaethu gan y rhaglen yn cael eu hadolygu drwy gydol y prosiect er mwyn sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosib yn cael cefnogaeth.”

Mae golwg360 wedi holi’r Mudiad Meithrin am ymateb.