Mae Cyngor Ynys Môn wedi dweud y bydd yn cynyddu’r Dreth Gyngor fel rhan o’i “arbedion sylweddol” yn dilyn gostyngiad o 2% yn ei gyllideb.

Mae’r cynghorwyr hefyd wedi cymeradwyo cyflwyno premiwm o 25% ar Dreth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hir dymor ac ail gartrefi o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

Yn ôl y ffigurau, mae 2,311 o eiddo ar yr ynys yn ail gartrefi ac mae 784 o dai wedi bod yn wag am gyfnod hir, gyda 35% ohonynt wedi bod yn wag ers dros bedair blynedd.

Bydd bil eiddo sydd ar Fand D  tua £1,061.46 y flwyddyn, sy’n gynnydd o tua £36 ers y flwyddyn flaenorol.

Er y cynnydd, mae’r Dreth Gyngor ar Ynys Môn yn parhau i fod yn un o’r isaf yng Nghymru.

Cyllideb ‘fwyaf heriol’ erioed

Mae’r Cyngor eisoes wedi gwneud £3.5m o arbedion, a gall fod toriadau pellach o £10m rhwng 2017 a 2020.

Yn ôl y Cynghorydd Hywel Eifion Jones, deilydd portffolio Cyllid y cyngor, dyma’r “gyllideb fwyaf heriol” i’r cyngor wynebu hyd yma.

“Gydag Ynys Môn yn wynebu toriad cyllid o 2% gan Lywodraeth Cymru, gellir dweud yn bendant mai hon fu’r gyllideb fwyaf heriol i ni hyd yma ac fe’n gorfodwyd i wneud arbedion sylweddol – cyfanswm o £3.5m – ar draws pob gwasanaeth,” meddai.

Dywedodd fod y cyngor wedi diogelu addysg a gwasanaethau cymdeithasol, er gwaethaf y pwysau o geisio dod o hyd i arbedion.

“Ein prif nod yn ystod y trafodaethau ar y gyllideb eleni oedd parhau i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a thrawsnewid gwasanaethau allweddol eraill i sicrhau eu bod yn dal i gael eu darparu, er mewn ffordd wahanol yn y dyfodol,” meddai’r arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ieuan Williams.

“Bydd sicrhau arbedion yn y dyfodol yn hanfodol ac felly rydym hefyd wedi neilltuo arian o’r balansau cyffredinol i gefnogi prosiectau trawsnewid busnes.”