Dydy nifer o theatrau llawdriniaeth ledled y wlad yn cael eu defnyddio’n effeithlon ac mae “lle sylweddol i wella,” yn ôl adroddiad diweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywedodd Huw Vaughan Thomas fod gormod o lawdriniaethau yn dechrau’n hwyr ac yn cael eu canslo, gan “golli” yr amser prin sydd gan theatrau llawdriniaeth mewn ysbytai.

Yn ei adroddiad ar theatrau llawdriniaeth, cododd pryderon hefyd am nifer y llawdriniaethau sy’n cael eu canslo oherwydd diffyg gwelyau a bod byrddau iechyd ddim yn defnyddio data’n effeithiol i fonitro perfformiad theatrau.

Cleifion ‘ddim yn mynd i’w triniaethau’

 

Nododd yn ei adroddiad, fod bron i hanner y triniaethau a gafodd eu canslo am fod y cleifion eu hunain yn canslo neu am nad oedden nhw wedi dod i gael eu triniaeth o gwbl.

 

Roedd y rhesymau y tu ôl i ddiffyg effeithlonrwydd y theatrau yn amrywio o gynllunio rhestrau llawdriniaethau yn wael, gyda nifer anymarferol o uchel neu isel o gleifion, problemau gydag offer y theatr gan oedi llawdriniaethau ac anawsterau o ran sicrhau lefel staffio ddiogel.

 

Roedd diffyg gwelyau mewn ysbytai hefyd yn cael ei nodi fel rhwystr i theatrau llawdriniaeth ac yn rheswm dros ganslo triniaethau.

‘Llawer mwy’ i wneud

 

Nododd fod y pwyslais ar ddiogelwch cleifion mewn theatrau yn cynyddu ond bod “llawer mwy” y gall byrddau iechyd ei wneud.

“Mae theatrau llawdriniaeth yn ddrud i’w rhedeg ac mae yna lawer mwy y gall byrddau iechyd ei wneud i sicrhau bod gallu eu theatrau yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac yn effeithiol,” meddai Huw Vaughan Thomas.

“Bydd cyflawni hyn o fudd i gleifion a byrddau iechyd, gyda llai o lawdriniaethau’n cael eu canslo, a pherfformiad gwell yn erbyn targedau amseroedd aros.”

Rhai o argymhellion yr adroddiad

  • Cyflwyno archwiliadau rheolaidd a hapwiriadau ar ddiogelwch llawfeddygol;
  • Sefydlu fforwm cenedlaethol ar gyfer gwella theatrau;
  • Gwella arweinyddiaeth gwasanaethau theatr mewn byrddau iechyd;
  • Meincnodi lefelau staffio a sgiliau mewn theatrau;
  • Gwella’r gwaith o adrodd ar berfformiad theatrau i fyrddau a phwyllgorau’r GIG; a gwneud data yn weladwy mewn theatrau er mwyn cyfrannu at ddiwylliant o wella

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.