Dylan Thomas
Mae Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal ail ddathliad blynyddol i’r llenor Dylan Thomas.

Fe fydd ‘Dydd Dylan’ yn cael ei gynnal eleni ar 14 Mai, sef y dyddiad y darllenwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf yn Efrog Newydd, 1953.

Yn dilyn llwyddiannau’r diwrnod rhyngwladol y llynedd, ynghyd â dathliadau’r canmlwyddiant y flwyddyn cynt, fe fydd ‘Dydd Dylan’ yn dychwelyd eleni gydag ystod o ddigwyddiadau yng Nghymru ac ar draws y byd.

Fe fydd amryw o ddigwyddiadau ar-lein, gan gynnwys Cerdd Fawr Dylan a digwyddiadau mewn lleoliadau arbennig fel Cei Newydd, Talacharn, Abertawe, Llundain, Efrog Newydd a Chernyw.

Gwobr Ryngwladol

Fe fydd seremoni wobrwyo Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2016 yn cael ei chynnal ar 14 Mai hefyd.

Yn ystod y seremoni ym Mhrifysgol Abertawe, fe fydd enillydd y wobr am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn Saesneg gan awdur o dan 39 oed yn cael ei gyhoeddi.

Mae 12 ar y rhestr fer am y wobr gwerth £30,000 eleni, gan gynnwys pedwar awdur o’r Unol Daleithiau, nofelydd o Nigeria, bardd o Fanceinion ac awdures o Iwerddon.

‘Dathlu’

Yn ogystal, fe fydd wyres Dylan Thomas, Hannah Elis yn lansio gwefan swyddogol y bardd.

Fe fydd Michael Sheen yn arwain darlleniad o berfformiad Under Milk Wood yn Efrog Newydd, ac fe fydd y beirdd Rufus Mufasa a Clare Potter yn llunio Cerdd Fawr Dylan yn seiliedig ar gyfraniadau plant a phobl ifanc.

“Mae Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn ffordd ardderchog o ddathlu un o feirdd gorau’r Ugeinfed Ganrif,” meddai’r bardd Carol Ann Duffy.

‘Ennill momentwm’

Mae’r diwrnod yn rhan o becyn tair blynedd gan Lywodraeth Cymru i godi proffil y bardd yng Nghymru a thramor, gan drefnu digwyddiadau a chyhoeddi adnoddau addysgol.

“Rwy’n hynod falch o weld bod y dathliad rhyngwladol hwn o fywyd a gwaith Dylan Thomas yn ennill momentwm, a bod y digwyddiadau sydd ar droed ar gyfer yr ail Ddydd Dylan mor ysbrydoledig,” meddai Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Ein gobaith yw y bydd y diwrnod hwn yn sefydlu ei hun fel pwynt ffocws i’r diddordeb eang a fu yn y bardd enwog ac i Gymru yn ystod dathliadau’r canmlwyddiant.”