Pwerdy npower, Penfro (llun o wefan y cwmni)
Mae pryder am ddyfodol swyddi gweithwyr ym mhwerdai Penfro ac Aberddawan yn sgil adroddiadau answyddogol fod y cwmni npower ar fin torri 2,500 o swyddi.

Mae’r cwmni’n cyflogi 11,500 o weithwyr ym Mhrydain ar hyn o bryd, ac yn cyflenwi ynni i 4.9 miliwn o gwsmeriaid.

Gydag RWE, rhiant-gwmni npower yn yr Alban, yn cyhoeddi ei ganlyniadau ariannol ddydd Mawrth, mae disgwyl y bydd gweithwyr npower yn cael gwybod eu tynged yr wythnos yma.

Cyhoeddodd RWE y mis diwethaf y byddai’r cwymp ym mhrisiau ynni yn arwain at golled o 200 miliwn ewro y llynedd, a hynny ar ôl disgwyl gwneud elw o 1.2 biliwn ewro.

Mae prisiau olew a nwy wedi cwympo dros y 18 mis diwethaf, gydag olew crai yn costio 70% yn llai na’r hyn oedd yn haf 2014.