Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ar ymweliad â Chaerdydd heddiw, lle mae’n cymryd rhan mewn gorymdaith yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Prydain i dorri ar rym undebau llafur.

Mae’n canmol Llywodraeth Cymru ar eu safiad yn erbyn y Mesur dadleuol.

“Dw i’n llongyfarch Llywodraeth Lafur ar y ffordd y maen nhw’n sefyll dros undebwyr llafur yng Nghymru,” meddai.

“Mae Llafur Cymru, yn wahanol i’r Ceidwadwyr yn San Steffan, yn gwybod bod gwasanaethau cyhoeddus cryf yn dibynnu ar weithwyr sy’n ddiogel ac wedi cael eu hyfforddi a’u talu’n dda.”

Addawodd Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y bydd Llafur yn dal i wrthwynebu’r Mesur os bydd yn cael ei hailethol ym mis Mai:

“Os bydd y Torïaid yn gorfodi’r Mesur yma drwy’r Senedd, bydd Llywodraeth Lafur nesaf Cymru’n cyflwyno Bil yn yr haf i ddileu effaith y Mesur Undebau Llafur yng Nghymru,” meddai.

“Ac fe fyddwn ni’n herio’r Llywodraeth Dorïaidd hon i fynd â ni i’r Goruchaf Lys ar ein Bil diddymu.”