Gorymdaith AberDewi drwy ganol dinas Abertawe y llynedd
Fe fydd dwy ysgol uwchradd Gymraeg Abertawe’n mynd ben-ben â’i gilydd yng nghystadleuaeth Aprentis AberDewi ddydd Sadwrn fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi’r ddinas sy’n cael eu trefnu gan Fenter Iaith Abertawe.

Yn ei hail flwyddyn, y Fenter Iaith sydd wedi mynd ati ar eu pennau eu hunain gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr i drefnu’r digwyddiad, yn dilyn blwyddyn lwyddiannus y llynedd yn cydweithio â’r Cyngor Sir, papur newydd y South Wales Evening Post, Fforwm Iaith Abertawe ac Amgueddfa’r Glannau.

Dwy fusnes leol, Swansea Building Society a chwmni ceir Sinclair sy’n noddi’r gystadleuaeth rhwng disgyblion Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe ar y diwrnod y mae disgwyl i gannoedd o bobol orymdeithio drwy ganol y ddinas (3.30yp).

Wrth efelychu rhaglen deledu boblogaidd y BBC, ‘The Apprentice’, bydd y ddwy ysgol yn herio’i gilydd i godi’r swm mwyaf o arian drwy werthu cynnyrch Cymreig, gyda’r holl elw’n mynd at ddwy elusen leol, hosbis Tŷ Olwen a chanolfan Zac’s Place sy’n cynnig cefnogaeth i bobol ddi-gartref.

Roedd Zac’s Place ym mhenawdau’r wasg leol y llynedd, wrth iddyn nhw drefnu angladd y dyn di-gartref Brian Boswell, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Tea Cosy Pete’.

Mae Sinclair wedi cyfrannu £1,200 a Swansea Building Society wedi rhoi £1,000 i Aprentis AberDewi, ac mae cynrychiolwyr o’r ddwy fusnes wedi bod yn rhoi cymorth a chefnogaeth i’r ysgolion wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

Dywedodd Swyddog Maes Menter Iaith Abertawe, Eleri Griffiths wrth Golwg360: “Ro’n nhw wedi cynnal gweithdy yn yr ysgol i baratoi yr wythnos diwetha.

“Maen nhw wedi paratoi ymlaen llaw i weld pwy fydd yn gwerthu beth, beth yw rôl pawb ar y diwrnod, ble byddan nhw’n gwerthu a.y.b.”

Cystadleuaeth y ddraig

Wrth i blant yr ysgolion uwchradd ymarfer eu sgiliau busnes, fe fydd cyfle i blant o ysgolion cynradd, clybiau ieuenctid ac adrannau’r ddinas ddangos eu doniau celf a chrefft wrth gystadlu i greu draig ar gyfer yr orymdaith.

Bydd y ddraig fuddugol o blith pump p gystadleuwyr yn cael arwain yr orymdaith, a’r enillwyr yn ennill tarian ar gyfer yr ysgol.

Ychwanegodd Eleri Griffiths: “Mae lot o waith i’w wneud gan bo ni moyn cynnwys pawb yn Abertawe.

Digwyddiadau

Yn ystod y dydd, fe fydd adloniant ar dair llwyfan mewn tri lleoliad yng nghanol y ddinas – yn Sgwâr y Castell, Stryd Rhydychen ac Amgueddfa’r Glannau.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio mae Al Lewis, Kizzy Crawford, Lowri Evans, Yr Angen a Raffdam.

Bydd nifer o gorau, gan gynnwys Côr Cefnogwyr y Gweilch a chôr The Voice o Lanelli, ynghyd â dawnsio gan Tawerin a Samba Tawe.

Bydd perfformiadau hefyd gan ysgolion Bryn Tawe, Gŵyr, Gellionnen a Lon Las, a llu o stondinau gwybodaeth a chynnyrch lleol.

Mae’r holl fanylion ar Facebook a Twitter.

‘Ymfalchïo yn y Gymraeg’

Ychwanegodd Eleri Griffiths:  “Mae’r amgueddfa wedi bod yn gret yn helpu, mae’r Cyngor wedi bod yn gret. Mae popeth yn ei le ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod yfory, gan obeithio y bydd hi’n cadw’n braf ac y bydd pobol troi lan i fwynhau ac i ymfalchio yn yr iaith Gymraeg yn Abertawe.

“Prif ffocws y dydd, yn amlwg, yw yr orymdaith. Ni’n moyn bod pobol yn dod mas yn y prynhawn i ymuno a ni i orymdeithio ac i ymfalchio yn y Gymraeg.”