Bydd enillydd Cân i Gymru nos yfory yn mynd adref gyda £1,500 yn fwy na wnaeth Arfon Wyn ac Elin Angharad y llynedd.

£5,000 yw’r wobr. £3,500 oedd y jacpot y llynedd pan ddaeth Arfon Wyn ac Elin Angharad i’r nrig gyda ‘Y Lleuad a’r Sêr’.

Yn ôl S4C mae Cân i Gymru’n “gystadleuaeth o bwys” ac maen nhw yn teimlo y dylai’r wobr adlewyrchu hynny.

Er hynny, yn 2010 roedd y brif wobr yn £10,000, yr ail yn ennill £4,000 a £2,000 am ddod yn drydydd – £16,000 yn y pot gwobrwyo.

Mae newidiadau eraill i’r gystadleuaeth eleni’n cynnwys rhoi’r grym dros ddewis y gân fuddugol yn nwylo’r gwylwyr, yn llythrennol, gan mai pleidleisiau ffôn fydd yn cyfrif.

Hefyd mae gwobr Tlws y Beirniaid i’w gyflwyno, er nad oes arian efo hwnnw.

“Mae Cân i Gymru yn gystadleuaeth o bwys yn y byd cerddoriaeth Cymraeg ac rydyn ni’n teimlo y dylai maint y wobr adlewyrchu hynny,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C.

“Mae’r cynnydd yn y wobr ariannol yn un o nifer o newidiadau a wnaed ar gyfer y gystadleuaeth eleni.

“Mae dewis y gân fuddugol bellach yn nwylo’r gwylwyr yn unig, ac wedi’u seilio ar y pleidleisiau ffôn a dim byd arall. Mae gwobr Tlws y Beirniaid wedi’i gyflwyno hefyd ac mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal eleni yn stiwdios y BBC, Caerdydd.”

Y cystadleuwyr

Yr wyth cân sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:

‘Caru nhw i gyd’ gan Sion Meirion Owens

‘Actor Gorau Cymru’ gan Barry Jones (Archie Celt)

‘Y Penderfyniad’ gan Beth Williams-Jones a Sam Humphreys

‘Caeth’ gan Sarah Wynn

‘Dim ond un’ gan Cordia

‘Ar ei ffordd’ gan Alun Evans (Alun Tan Lan)

‘Cannwyll’ gan Geth Vaughan

‘Meddwl am ti’ gan Kizzy ac Eady Crawford