Bydd cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd yn cael ei gynnal ymhen pythefnos, ar Fawrth 18,  i drafod asesiad iaith y Cynllun Datblygu Lleol sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd â Chyngor Môn.

Ond er ei fod yn croesawu’r cyfarfod dywedodd ysgrifennydd y mudiad Cylch yr Iaith, Ieuan Wyn, wrth golwg360 ei bod hi’n “amlwg fod ’na ddiffygion yn y ffordd mae’r cynllun wedi cael ei asesu.”

Ychwanegodd mai un o obeithion Cylch yr Iaith yw y bydd Cynghorwyr Môn yn galw cyfarfod llawn hefyd i’r un pwrpas.

Mae’r asesiad yn rhan o’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ar gyfer y ddwy sir, sy’n dynodi bod angen dros 7,900 o dai ychwanegol dros y 15 mlynedd nesaf.

‘Diffygion difrifol’

Dywedodd Ieuan Wyn bod mudiadau sy’n cynnwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi asesu’r asesiad flwyddyn yn ôl a darganfod 43 o “ddiffygion difrifol”.

Er i’r adroddiad gael ei gyflwyno fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus, meddai nad oes neb wedi cymryd sylw a bod hynny yn “siom ac yn syndod”.

Dywedodd Ieuan Wyn:  “Os nad ydyn nhw’n cywiro’r diffygion, bydd anawsterau yn codi gyda bob math o geisiadau cynllunio lle bydd na or-ddarparu tai.”

‘Niweidio’r Gymraeg yn gymunedol’

 

“Un broblem yw mai’r Uned Polisi Cynllunio sydd wedi gwneud yr asesiad arbennig yn hytrach na chael arbenigwyr yn eu maes i ddarparu asesiad annibynnol.

“Ond eu problem fwyaf nhw yw eu bod nhw wedi camddehongli cyfrifiad 2011 drwy ddefnyddio mathemateg yn unig heb ddim mewnbwn gan arbenigwyr cymdeithasegol.

“Pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen fel y mae o, o’n dealltwriaeth ni, mi fyddai’n sicr yn niweidio’r Gymraeg yn gymunedol.”

Gwyrdroi tueddiadau 2011

 

A ninnau dros hanner ffordd tuag at gyfrifiad 2021, mae’n rhaid gwneud rhywbeth nawr i atal tranc yr iaith, yn ôl Ieuan Wyn.

Meddai: “Os nad yw pob tueddiad a welwyd yng nghyfrifiad 2011 yn cael eu newid yn sylfaenol, mi fyddan nhw’n codi momentwm.  Unwaith mae nifer siaradwyr o dan 70%, maen nhw’n disgyn yn sydyn wedyn.

“Rhaid i’r cynllun fod yn iawn yn ieithyddol. Mi fydd yn weithredol tan 2026 a bydd ei ddylanwad yn parhau wedyn.

“Ar fater mor bwysig â dyfodol y Gymraeg a’n parhad ni fel Cymru Cymraeg, mae dyletswydd gan Gynghorau Gwynedd a Môn i warchod y Gymraeg yn ein cymunedau ni. Ac yn yr argyfwng presennol, dyma’r peth doeth i’w wneud.”