Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi cael ei wawdio gan ASau Llafur wedi iddo fethu â bod yn bresennol mewn dadl ar faterion Cymreig.

Mae’r ddadl hir, sy’n canolbwyntio’n llwyr ar faterion Cymreig, yn ddigwyddiad cymharol brin yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae rhai Aelodau Seneddol wedi galw’r digwyddiad yn “ddadl Dydd Gŵyl Dewi”.

Ond nid oedd Stephen Crabb yn bresennol a bu’n rhaid i’w ddirprwy Alun Cairns ddweud wrth y Tŷ fod ganddo “fusnes seneddol mewn mannau eraill.”

‘Synnu’

Roedd Nia Griffith, llefarydd Llafur ar Gymru, wedi holi lle’r oedd Stephen Crabb a dywedodd ei bod yn “synnu” nad oedd Ysgrifennydd Cymru’n bresennol.

Meddai: “Rwy’n synnu o weld nad yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei le i ymateb i’r ddadl heddiw.

“Mae hyn er gwaethaf iddo wneud cyhoeddiad hynod bwysig am newidiadau sylfaenol i Fesur Drafft Cymru i newyddiadurwyr ddydd Llun, ond nid i’r Tŷ hwn, gyda Swyddfa Cymru yn trydar ar y pryd y gallai Aelodau Seneddol aros tan heddiw i drafod y newidiadau hyn.”

Awgrymodd yr AS Llafur dros Gaerffili, Wayne David, fod Stephen Crabb efallai wedi “ymddiswyddo” heb i neb wybod.

Dywedodd Alun Cairns fod Stephen Crabb wedi esbonio’r sefyllfa wrth Stephen Kinnock AS, a oedd wedi galw am y ddadl, gan ychwanegu fod yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Prif Weinidog wedi “cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi llwyddiannus iawn yn Rhif 10 yn gynharach yr wythnos hon.”