Andrew Green, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn ei Gynulliad blynyddol, fe fydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn galw heno ar Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau buddsoddiad digonol i gefnogi datblygiad pellach y Coleg.

Bydd Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y sefydliad cyllido addysg uwch Cymraeg, Andrew Green, hefyd yn galw ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ymrwymo adnoddau digonol i’r Coleg yn ystod y misoedd nesaf.

Daw’r alwad wrth i’r Coleg aros am gyhoeddi adolygiad yr Athro Ian Diamond ar drefniadau cyllido myfyrwyr ac addysg uwch yng Nghymru.

‘Hanfodol’ i gynnal momentwm y Coleg

Dywedodd Andrew Green ei fod yn “hanfodol cynnal y buddsoddiad yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol” os yw’r sefydliad am gynnal ei “fomentwm presennol.”

“Mae cymaint o waith da wedi ei gyflawni dros y pum mlynedd ddiwethaf ers sefydlu’r Coleg,” meddai.

Fe fydd yn galw am sicrwydd i ddyfodol y Coleg yn y Cynulliad blynyddol heno yn Nheml Heddwch Caerdydd.

Croesawu tri chymrawd

Yn ystod y seremoni, bydd y Coleg Cymraeg hefyd yn cyflwyno tair Cymrodoriaeth er Anrhydedd, sy’n adnabod cyfraniadau tuag at addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ac at waith y Coleg yn gyffredinol.

Y tri fydd yn cael eu hanrhydeddu eleni fydd yr ymgyrchydd iaith a darlithydd, Ned Thomas, Geraint Talfan Davies, cyn-reolwr BBC Cymru a Rhian Huws Williams, prif weithredwr Cyngor Gofal Cymru.

Bydd y Cynulliad hefyd yn cydnabod myfyrwyr sydd wedi sicrhau doethuriaeth dan nawdd y Coleg, a chydnabod llwyddiant Meinir Olwen Williams, enillydd Gwobr Norah Isaac am y marc uchaf yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg y llynedd.

Bydd Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan hefyd yn cael ei chyflwyno i wyddonydd sydd wedi gwneud cyfraniad at addysgu’r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg, yr Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe fydd yn cael y wobr eleni.