Dywed Heddlu Gwent eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad ar ôl i weddillion dynol gael eu darganfod mewn chwarel yng Nghas-gwent.

Cafodd yr heddlu eu galw i Chwarel Beaufort yng Nghas-gwent ddydd Mercher diwethaf, 24 Chwefror am 12.26yp ar ôl derbyn adroddiadau am weddillion dynol gan aelod o’r cyhoedd.

Nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.