Y gofodwr Tim Peake
Daeth neges yn dymuno’n dda i Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi o’r gofod heddiw, gan y gofodwr Tim Peake, o’r Orsaf Ofod Ryngwladol.

Fe wnaeth Peake, 43 oed, ddechrau ei fideo drwy ddweud ‘Croeso’ yn Gymraeg, wrth sefyll o flaen baner y Ddraig Goch.

“O arwain yr offeryn spire ar y llong ofod Herschel, i ddarparu’r rhan fwyaf o’r gwydr ar baneli solar yr Orsaf Ofod Ryngwladol, mae Cymru yn rhan bwysig o’n gymuned ofod yn y DU,” meddai.

“Ac o fyny fan hyn, mae hefyd yn hyfryd i edrych i lawr ar yr Wyddfa, y Bannau Brycheiniog a’r Cymoedd.

“Ac felly, hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi.”

Mae Tim Peake, o Chichester, Lloegr, wedi bod yn y gofod ers mis Rhagfyr a daeth y person cyntaf o Brydain i gerdded yn y gofod y mis diwethaf.