Y ddraig goch, ger Castell Caerffili, Llun: Cadw
Mae draig fawr wedi ymddangos o gwmpas Castell Caerffili y bore yma, a hynny ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’r ddraig, sy’n mesur pedwar metr o hyd a dau fetr o led, wedi ei chreu gan gwmni Wild Creations o Gaerdydd. Dyna’r cwmni a greodd y bêl a fu ar furiau castell Caerdydd adeg Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd.

Fe gymerodd y ddraig, sydd wedi ei chreu o wydr ffibr ac yn pwyso tunnell, chwe wythnos i’w hadeiladu.

“Mae cefndir canoloesol Castell Caerffili yn lleoliad perffaith ar gyfer yr anghenfil chwedlonol, tebyg i ymlusgiaid hwn,” meddai Matt Wild, perchennog Wild Creations.

“Gallai fod yn hysbysfwrdd ar gyfer ffilm Hollywood boblogaidd, bron. Dy’n ni wrth ein bodd gyda’r cynnyrch terfynol ac yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobol o bob cwr o Gymru i ymweld â’r safle, a’r ddraig, yn ystod y gwanwyn eleni.”

Mae’n bosib gweld y ddraig am ddim tan Fawrth 6, yna fe fydd yn symud tu fewn i furiau’r castell lle bydd disgwyl i ymwelwyr dalu’r pris arferol.


‘Tanio diddordeb’

Mae’r ddraig yn nodi lansiad Anturiaethau Hanesyddol gan Cadw, ac mae’n rhan o Flwyddyn Antur Croeso Cymru.

“Dyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd a chyffrous o ddod â henebion hanesyddol Cymru yn fyw i ymwelwyr eu harchwilio a’u mwynhau,” meddai Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Mae dreigiau yn ymddangos yn llawer o fythau a chwedlau mawr Cymru, a straeon fel hyn sy’n gwneud treftadaeth ein gwlad mor unigryw. Dyn ni’n gobeithio y bydd dyfodiad y ddraig i Gastell Caerffili yn tanio diddordeb pobol yn hanes Cymru ac yn eu hysbrydoli i fynd ar eu Hanturiaethau Hanesyddol eu hunain yn ystod y Flwyddyn Antur.”

Blwyddyn Antur Cymru

 

Fel rhan o’r Flwyddyn Antur, mae Cadw  wedi paratoi arlwy o ddigwyddiadau gan gynnwys dangosiad cyhoeddus o gemau rygbi hanesyddol yng nghastell Caerffili, Mawrth 12.

Fe fydd dathliad o gwrw go iawn yng Nghastell Cas-gwent, Mawrth 25-26.

Yna yn ystod gwyliau’r Pasg, fe fydd cyfle i blant a theuluoedd gwrdd â’r cymeriad teledu ‘Mike the Knight’ yng nghestyll Rhaglan, Harlech a Chaernarfon, Mawrth 26 – 28.