Neuadd y Cynulliad Cenedlaethol
Mae un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru, sy’n gartref i’r Cynulliad Cenedlaethol, yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed heddiw.
Cafodd yr adeilad o lechen a gwydr ei gynllunio i’w ddangos fel rhywle hygyrch a thryloyw, lle gall pobol Cymru weld a chlywed gwleidyddion Bae Caerdydd yn gwneud penderfyniadau a phasio deddfau.
Mae’r deddfau a’r polisïau hyn yn amrywio, gydag iechyd, addysg, amaethyddiaeth, yr amgylchedd, gwasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth a meysydd eraill wedi’u datganoli i Gymru.
Ers y 10 mlynedd diwethaf, mae’r Senedd wedi gweld 46 o Ddeddfau a Mesurau yn cael eu pasio mewn dadleuon yn y Siambr – sef y siambr drafod ar gyfer y 60 Aelod Cynulliad.
Ac mae dros filiwn o bobl wedi ymweld â’r Senedd, gyda’r staff wedi cynnal bron i 30,000 o deithiau ar gyfer mwy na 200,000 o bobol, yn cynnwys disgyblion o gannoedd o ysgolion ledled Cymru.
Deddf Rhoi Organau – ‘uchafbwynt’
“Mae’r penderfyniadau a wneir yma yn effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru, felly mae’r egwyddorion o dryloywder a hygyrchedd, sy’n rhan annatod o’r adeilad, o’r pwysigrwydd mwyaf i mi,” meddai’r Fonesig Rosemary Butler.
“Yn bersonol, y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar ganiatâd tybiedig i roi organau oedd un o uchafbwyntiau’r Senedd yn ei 10 mlynedd gyntaf.
“Cafwyd cyfraniadau angerddol o bob tu a gellid teimlo wir fod rhywbeth hynod arbennig yn digwydd.”
‘Adeiladu ar gyfer Democratiaeth’
I ddathlu pen-blwydd yr adeilad ym Mae Caerdydd, bydd sgwrs ‘Adeiladu ar gyfer Democratiaeth’, yn cael ei chynnal heno yng nghwmni’r penseiri yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour o Rogers Stirk Harbour and Partners.
“Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn creu lle i bobl yng nghanol democratiaeth,” meddai’r Arglwydd Richard Rogers.
“Mae’r adeilad yn rhan o’r byd cyhoeddus, yn esgyn o’r porthladd tua’r ddinas, fel y gall dinasyddion wylio’u cynrychiolwyr etholedig a gweithio gyda hwy.”
Penwythnos i’r teulu
Ac ar benwythnos 5-6 Mawrth, bydd yr adeilad yn cynnal digwyddiadau i’r teulu i ddathlu ei ddengmlwyddiant, gan gynnwys perfformiadau gan Sioe Cyw S4C a Chôr Ysgol Glanaethwy.
Bydd Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, hefyd yn cynnal gweithdai barddoni â phlant.