Mae’r Blaid Lafur wedi dewis pennaeth iechyd undeb Unsain Cymru fel ei hymgeisydd ar gyfer etholiad y Cynulliad yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni.

Gobaith Dawn Bowden yw olynu’r Gwenidog Addysg Huw Lewis pan ddaw’r etholiad ym mis Mai.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Huw Lewis, sydd wedi cynrychioli’r etholaeth ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999, ei fod yn rhoi’r gorau iddi.

Cafodd Dawn Bowden ei dewis o blith rhestr fer i ferched yn unig, penderfyniad a gafodd ei feirnadu gan aelodau lleol yn gynharach yn y mis.