Huw Vaughan Thomas
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru wedi delio â chronfa wyddonol gwerth £50 miliwn.

Yn yr adroddiad i Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol fod “agweddau o’i sefydlu, llywodraethiant, arolygu a’i gweithredu yn wallus ac wedi cael eu dogfennu’n wael.”

Er hyn, cymeradwyodd Huw Vaughan Thomas cysyniad y Gronfa, gan ychwanegu ei bod yn “arloesol ac yn glodwiw ar lawer ystyr”.

Cafodd y gronfa ei sefydlu yn 2012 i geisio annog rhagor o gwmnïau meddygol a fferyllol i symud i Gymru.

Daw’r adroddiad mis ar ôl i adroddiad arall feirniadu’r llywodraeth am ei waith ar Gronfa Fuddsoddi Cymru mewn Adfywio, lle gwerthwyd tir cyhoeddus am brisiau isel, pan allent fod wedi sicrhau degau o filiynau o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus.

 

‘Anfaddeuol’

 

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud bod canfyddiadau’r adroddiad yn “gwbl anfaddeuol”, gan gyhuddo’r Llywodraeth o wastraffu arian cyhoeddus.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n feirniadol iawn o’r ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn delio ag arian cyhoeddus.”

“Mae’n gwbl anfaddeuol bod Gweinidogion Llafur unwaith eto wedi’u cael yn cymryd gofal annigonol yn sefydlu a goruchwylio cronfa gwerth £50 miliwn o arian y trethdalwr.”

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, byddan nhw’n ystyried yr adroddiad ac yn “ymateb maes o law.”

Canfyddiadau

 

Prif ffocws yr adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru, oedd edrych ar weithrediadau cychwynnol y gronfa a gweld os oedd y Llywodraeth a’r corff, Cyllid Cymru yn ei arolygu’n effeithiol.

Roedd yr adroddiad wedi canfod:

  • ·         Nad oedd Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael ag achosion gwrthdaro buddiannau yn ddigon cadarn.
  • ·         Roedd y penderfyniad i gaffael rheolwr i’r gronfa wedi ei ddogfennu’n wael, heb unrhyw gofnodion cyfoes i ddangos y byddai contractio am reolwr i’r gronfa yn rhoi gwell gwerth am arian na recriwtio staff arbenigol gan Gyllid Cymru ei hun.
  • ·         Roedd rhai diffygion arwyddocaol yn y modd y gwnaeth Cyllid Cymru gaffael Rheolwr y Gronfa.
  • ·         Nid oedd y trefniadau arolygu a osodwyd gan Gyllid Cymru yn ddigon cadarn.

Mae’r adroddiad yn cynnwys naw prif argymhelliad i Lywodraeth Cymru.

“Mae’r adroddiad hwn yn delio ag amrywiol wendidau yn y modd y sefydlodd Llywodraeth Cymru a Chyllid Cymru’r Gronfa a’i harolygu yn ystod ei gweithrediadau cynnar,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas.

“Mae’r canfyddiadau’n tanlinellu’r angen am lywodraethiant cryf mewn oes pan fo’r esgid yn gwasgu.”