Maes Awyr Heathrow
Fe fydd tri pherson o Fachynlleth ymhlith 13 o brotestwyr a fydd yn cael eu dedfrydu heddiw am gynnal protest yn erbyn ehangu Maes Awyr Heathrow.

Yn ôl barnwr yn yr achos llys, mae “bron yn anochel” y bydd y protestwyr o’r grŵp lobïo, Plane Stupid, yn mynd i’r carchar.

Fe allen nhw dreulio hyd at dri mis yn y carchar am gynnal y protest gan achosi i rai hediadau gael eu canslo.

Yn eu plith mae Rebecca Sanderson, 28, o Heol Newton, Richard Hawkins, 32, a Kara Moses, 32, y ddau o Heol y Doll ym Machynlleth.

Fe fydd rali yn cael ei chynnal o blaid y protestwyr, y tu allan i Lys Ynadon Willesden cyn y gwrandawiad heddiw ac mae disgwyl i Aelod Seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas, fynd yno i’w cefnogi.

Cost ariannol ‘anferth’

Yn dilyn achos llys ym mis Ionawr, cafwyd y protestwyr yn euog o dresmasu difrifol ac o fynd i mewn i ardal ddiogelwch gyfyngedig mewn maes awyr.

Fe wnaeth y grŵp dorri twll mewn ffens a gwneud eu ffordd i lain ogleddol Heathrow gan glymu eu hunain i fariau yn yr oriau mân ar 13 Gorffennaf y llynedd.

Roedd yn rhaid canslo 25 o hediadau, gan darfu ar filoedd o deithwyr ac achosi cost ariannol “anferth” i’r maes awyr.

Gwarthus’

Rhybuddiodd y Barnwr Deborah Wright y byddai “bron yn anochel” y byddan nhw i gyd yn cael dedfryd o garchar.  Ond dywedodd canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, y byddai eu carcharu yn “warthus”. Mae ei etholaeth yn cynnwys Heathrow.

Yn ogystal â’r tri o Fachynlleth, mae’r protestwyr eraill yn cynnwys Danielle Paffard, 28, o Peckham, Ella Gilbert, 23 o Norwich, Melanie Strickland, 32, Graham Thompson, 42, a Sheila Menon, 44 o ogledd-ddwyrain Llundain, Cameron Kaye, 23, Edward Thacker, 26, Alistair Tamlit, 27 a Sam Sender, 23, o orllewin Llundain a Robert Basto o Surrey.