Fe fydd ap newydd Geiriadur Prifysgol Cymru ar gyfer ffonau clyfar a thabledi’n cael ei lansio yn Aberystwyth ddydd Mercher.

Dyma’r datblygiad diweddaraf ers i’r geiriadur gael ei lansio ar y we ddwy flynedd yn ôl.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fis Ebrill y llynedd y byddai’r ap yn un o 10 o brosiectau a fyddai’n cael eu hariannu er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg drwy dechnoleg a chyfryngau digidol.

Ar yr ap fe fydd holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru, ac fe fydd modd lawrlwytho’r holl gynnwys fel nad oes angen cyswllt â’r we er mwyn ei ddarllen.

‘Adnodd cynhwysfawr’ 

Bydd yr ap hefyd yn cynnwys nifer o gemau geiriau, gan gynnwys anagram a geiriau cudd.

Cafodd fersiwn ar-lein o’r geiriadur ei gyhoeddi ar y we ym mis Mehefin 2014.

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn gobeithio y byddai’r ap yn “adnodd cynhwysfawr, poblogaidd a hynod ddefnyddiol… mewn cyfrwng newydd ar gyfer cynulleidfa newydd”.

Bydd yr ap yn cael ei lansio yn Ysgol Gyfun Penweddig am 11 o’r gloch.