Mewn cyfrol newydd sy’n mynd i’r afael â’r ‘Dewi Sant go iawn’ mae’r awdur yn “gwyntyllu’r syniad ei fod yn Gardi”.

Prin iawn yw’r testun sydd ar gael am Dewi Sant, yn enwedig yn y Gymraeg, felly mae llawer o ddirgelwch amdano o hyd.

Ac er bod llawer yn credu mai dyn o Geredigion oedd Dewi Sant mae’r awdur Gerald Morgan, a oedd arfer bod yn brifathro yn Ysgol Uwchradd Penweddig, Aberystwyth, yn dweud nad oes tystiolaeth i gefnogi hynny.

Taflu goleuni

Mae llawer o syniadau newydd yn deillio o’r llyfr newydd Ar Drywydd Dewi Sant gafodd ei chyhoeddi’r wythnos hon, ac mae’n taflu “lot o oleuni ar ffigwr Dewi drwy’r oesoedd” yn ôl Gerald Morgan.

“Dydy’r ddadl [am darddiad Dewi Sant] ddim wedi cael ei ddatblygu mewn llyfr o’r blaen,” meddai’r hanesydd o Aberystwyth wrth golwg360.

“Dw i’n deud yn y llyfr i bwy mae’r syniad yn tarddu, sef yr Esgob presennol [ar esgobaeth Dewi Sant], Wyn Evans.”

Dryswch Dewi

Yn ôl Gerald Morgan mae’r dryswch yn deillio o lyfr yr awdur canoloesol, Rhygyfarch, am fywyd Dewi Sant, dros 500 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, sy’n honni fod tad Dewi – Sant – wedi dod i Ddyfed (sef Penfro), a threisio’r Santes Non, cyn i Ddewi gael ei eni.

“Dw i ddim yn credu bod neb o’r enw Sant wedi bod erioed, pwy bynnag oedd tad Dewi Sant… mae Rhygyfarch yn annelwig iawn am fywyd cynnar Dewi, a dydy hynny ddim yn syndod achos wydde fe ddim,” meddai Gerald Morgan.

Dywedodd bod cysylltiad ag enwau lleoedd ag enw Dewi ym Mhenfro a Cheredigion, ond ei bod hi’n amhosib gwybod yn iawn ble cafodd y sant ei eni.

“Fe ddysgais lawer wrth ysgrifennu’r llyfr, am lawer o bethau sydd erioed wedi cael eu crybwyll am fywyd Dewi,” ychwanegodd.

Apêl y nawddsant

Yn ystod oes Rhygyfarch, fe wnaeth yr enw am Ddewi ledu i orllewin Lloegr, Llydaw ac Iwerddon lle’r oedd eglwysi wedi’u hadeiladu yn ei enw ef.

Ac mae ganddo enw rhyngwladol o hyd, gyda chymdeithasau yn ei enw mor bell ag America, a’i statws fel nawddsant Cymru yn parhau i fod yn gryf.

“Mae Dewi yn sant ar gyfer pob cyfnod,” meddai Gerald Morgan wrth geisio esbonio ei apêl.

Stori: Mared Ifan