Carwyn Edwards
Mae gŵr 39 oed o ogledd Cymru mewn “cyflwr sefydlog” yn yr Unol Daleithiau ar ôl llawdriniaeth ddoe i ddatrys haint prin ar ei galon.

Mae ei deulu wedi diolch am y gefnogaeth wrth i apêl ganddyn nhw godi £3,000 mewn ychydig ddyddiau – mae bellach tros £7,000.

Yn ôl chwaer yng nghyfraith Carwyn Edwards, Sarah Edwards, mae’r sefyllfa yn un “anodd iawn” gyda’i dad a’i frodyr wedi gorfod hedfan allan i Arizona i fod gydag ef.

Chwech awr o driniaeth

Mae Meirion Edwards, a’r brodyr Aled ac Ieuan wedi bod yn yr Unol Daleithiau ers tair wythnos, ac wedi newid eu tocynnau i rai penagored.

Fe gafodd y llawdriniaeth ar falf heintus yng nghalon Carwyn Edwards ei gwneud yn Ysbyty Banner UMC yn Tuscon, Arizona.

“Mi fuodd o yno am chwech awr, ac mae’r doctoriaid wedi tynnu’r falf oedd wedi ei heintio ac wedi rhoi falf mochyn yno yn ei lle,” meddai ei chwaer yng nghyfraith, Sarah Edwards, sy’n byw yn Nantlle ger Caernarfon.

Mae lluniau ohono ar dudalen yr apêl yn dangos y gwahaniaeth mawr ynddo ers cael ei daro’n wael yn gynharach eleni.

‘Pellter sy’ anodda’

“Mae’n anodd dros ben,” meddai Sarah Edwards. “Mi gawson ni alwad rhyw dair wythnos yn ôl yn gofyn am aelodau agosa’r teulu, ac oeddan nhw’n cymryd ein bod ni’n byw lawr y lôn.

“Y peth cynta’ oedd rhaid gwneud wedyn oedd ffeindio ffordd i gael yr hogia’ allan yno cyn gynted â phosib.”

Fe gafodd Carwyn Edwards ddiagnosis o glefyd y siwgr ychydig cyn y Nadolig, ond ddiwedd mis Ionawr fe gafodd wybod ei fod yn dioddef o lid heintus ar falfau’r galon, ac roedd hynny’n achosi ceulo gwaed difrifol.

“Mi wnaeth ei gariad ffeindio fo mewn coma ar lawr un diwrnod,” meddai Sarah Edwards.

Bellach, mae mewn cyflwr sefydlog wedi’r llawdriniaeth. Ond, mae eisoes wedi gorfod colli ei goes chwith uwchlaw’r pen-glin ac mae disgwyl iddo golli rhan isaf ei goes dde hefyd oherwydd ceulo gwaed sydd wedi lledu i rannau eraill o’i gorff.

 ‘Dechrau’r daith’

Mae’r teulu wedi sefydlu ymgyrch i godi arian ar gyfer ei lawdriniaeth, ynghyd â’i gyfnod adfer gyda’r ymgais i’w gael yn ôl i Gymru. O fewn ychydig ddyddiau, fe lwyddon nhw i godi mwy na £3,000.

“Mae’r ymateb, y negeseuon a’r gefnogaeth ar y dudalen wedi bod yn hwb mawr i’r teulu.”

“Dw i’n gwybod mai dechrau’r daith ydy hyn, ond dw i’n gobeithio mai dim ond gwella y bydd o hyn ymlaen.”

Esboniodd hefyd ei fod newydd ddechrau swydd yn gweithio i gwmni yswiriant iechyd.

“Mae’n ffodus ei fod o’n gweithio yna, achos oedd o’n fwy ymwybodol o be’ oedd angen,” meddai gan esbonio fod ganddo yswiriant meddygol sy’n talu am 85% o’r costau meddygol.

Stori: Megan Lewis   meganlewis@golwg.com